Gwrthododd Gwenno Teifi â thalu iawndal am ddifrodi cyfarpar Radio Sir Gâr
|
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae 27 o fyfyrwyr prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn ymprydio a galw am ryddhau aelod.
Yn Llys Ynadon Caerfyrddin ddydd Llun cafodd Gwenno Teifi bum diwrnod o garchar.
Roedd y fenyw 19-oed o Lanfihangel-ar-Arth ger Llandysul wedi gwrthod talu £200 o iawndal i Radio Sir Gâr wedi i gyfarpar gael ei ddifrodi adeg protest yng Nghorffennaf 2004.
Gwenno yw wyres Gwynfor Evans a hi, meddai'r mudiad, yw'r aelod cyntaf i gael ei garcharu ers mwy na 10 mlynedd. Cafodd Sioned Elin ei charcharu yn 1995.
Myfyrwraig flwyddyn gyntaf yw Gwenno yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn Ebrill 2005 fe'i cafwyd yn euog gan Ynadon Hwlffordd o achosi difrod i eiddo Radio Sir Gâr yn Arberth.
Mae mewn uned troseddwyr ifanc yn Wooton under Edge, Sir Gaerloyw.
Cafodd yr achos ei ohirio yn Ionawr am nad oedd modd cynnal yr achos trwy gyfrwng y Gymraeg.
'Dim cais'
Roedd yr ynadon wedi dweud nad oedd cais wedi ei wneud i'w gynnal yn y Gymraeg.
Dadleuodd yr ymgyrchwyr ar y pryd y dylai pob achos gael ei gynnal yn y Gymraeg mewn ardal fel Sir Gâr oni bai fod cais penodol i gael achos Saesneg.
Wrth ymateb, dywedodd Gwasanaeth y Llysoedd mai ei bolisi oedd "darparu gwasanaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg yn holl lysoedd Cymru".
"Roedd y broblem a gododd yn Llys Ynadon Caerfyrddin yn un weithredol ac nid un yn ymwneud â pholisi," meddai'r datganiad.
"... nid yw pob ynad neu aelod o staff y llys yn ddwyieithog ac felly mae'n rhaid i ni geisio adnabod achosion ymlaen llaw neu ymdrin â nhw orau y gallwn pan maen nhw'n codi.
"Yn yr achos penodol hwn doedd yr ynadon ddim yn teimlo fod eu Cymraeg yn ddigon da i ymdrin gyda'r mater ac felly fe benderfynon nhw ohirio'r achos i ddyddiad lle bydd Mainc ar gael gyda phawb yn siarad Cymraeg."