BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 28 Chwefror 2006, 08:17 GMT
Gwyl Dewi: Atyniadau am ddim
Castell Caernarfon
Fe fydd y mynediad am ddim ar Ddydd Gwyl Dewi

Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni fe fydd y mynediad i nifer o gestyll Cymru yn rhad ac am ddim.

Bydd mynediad am ddim i 12 o atyniadau Cymru sy'n ngofal Cadw.

Gobaith Llywodraeth y Cynulliad ydi agor rhai o'r atyniadau hynaf sydd gan Gymru wrth i adeilad newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru agor ym Mae Caerdydd.

Fel arfer mae'n rhaid talu i fynd i mewn i atyniadau Cadw.

Fe fydd prif atyniad Cadw, Castell Caernarfon, yn agor y porth i ymwelwyr am ddim.

"Yn ogystal bod yn Ddydd Gŵ yl Dewi, bydd Mawrth 1 yn ddiwrnod mwy arbennig nag arfer eleni," meddai Alun Pugh, Gweinidog Diwylliant Cymru.

Atyniadau

"Mae'r siambr drafod newydd yn un o adeiladau pwysicaf Cymru yn cael ei agor.

"Gan y bydd hwn yn ddiwrnod o bwys i Gymru gyfan, mae'n briodol fod pobl yn gallu ymweld ag adeiladau hynod eraill sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn hanes a diwylliant Cymru."

Yr atyniadau fydd ar gael am ddim fydd:

Castell Biwmares
Castell Caernarfon
Castell Caernarfon
Mae dros 230,000 yn ymweld Chastell Caernarfon bob blywddyn
Castell Coch
Castell Conwy
Castell Harlech
Baddondai Caer Rufeinig Caerllion
Castell Caerffili
Castell Cas-gwent
Castell Rhaglan
Abaty Tyndyrn
Castell Cydweli
Palas yr Esgob yn Nhyddewi

Bob blwyddyn mae nifer o bobl yn ymweld 'r cestyll gyda'r prif rai yn denu miloedd.

Mae 230,000 yn ymweld chastell Caernarfon bob blwyddyn, 100,000 i Gastell Caerffili a 30,000 yn ymweld Phalas yr Esgob.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^