Mae'r Gadair wedi ei gwneud o dderw naturiol
|
Cafodd dwy o wobrau mwyaf yr Eisteddfod Genedlaethol eu cyflwyno i Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau nos Iau.
Y cynllunwyr a'r noddwyr gyflwynodd y Gadair a'r Goron i Bwyllgor Gwaith yr Eisteddfod fydd yn y Faenol o Orffennaf 30 tan Awst 6.
Dywedodd Richard Morris Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Eryri, mai traddodiad blynyddol oedd cyfarfod i ddiolch i'r rhai oedd wedi noddi a chynllunio'r ddwy wobr.
Mae'r Gadair yn cael ei rhoi am awdl ar y testun Gorwelion a'r Goron am gasgliad o gerddi rhydd ar thema.
Cangen Sir Caernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru sy'n cyflwyno'r Gadair eleni ym mlwyddyn dathlu 50 mlynedd ers ei ffurfio.
Mae wedi ei llunio gan John Parry, cyn-athro coed o Borthmadog a'i gartref sydd wedi ysbrydoli ei gynllun gan ei fod yn cynnwys llawer o gelfi o'r cyfnod Art Nouveau.
Y disglair a'r garw
Gwasg Dwyfor sydd wedi noddi'r Goron ac mae wedi ei llunio gan Ann Catrin Evans.
Mae'r cynllun yn defnyddio llechen a symbol o lyfrau er mwyn portreadu'r ardal a'r cysylltiad gyda'r wasg.
Mae'r Goron wedi ei gwneud o arian a llechen gan gyfuno'r golau a'r disglair gyda'r tywyll a'r garw ac mae'r arian mewn ffurf cylch fel clawdd llechen sy'n nodweddiadol o ardal yr Eisteddfod.
Mae arian y Goron mewn ffurf cylch fel clawdd llechen
|
Cafodd y Goron ei chyflwyno i Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Richard Morris Jones, a'r Gadair i'r Is-gadeirydd, y Parch Meirion Lloyd Davies nos Iau.
Dywedodd Mr Morris Jones ei fod wedi ei blesio â'r gwaith ac mae'n gobeithio y bydd teilyngdod yn y ddwy gystadleuaeth.
"Dwi'n credu fod y ddau ohonyn nhw yn unigryw iawn," meddai.
"Mae cefn uchel i'r Gadair ac mae'n edrych yn eithaf modern. Mae'r pigau ar y Goron yn cynrychioli asgwrn cefn llyfrau ac mae'n ysgafn a hardd."
"Pan oedd yr Eisteddfod yng Nghaernarfon yn 1979 ataliwyd y Gadair.
Tocynnau
"Enillwyd y Goron gan rywun â'r ffug enw Ianws ond fe ganfyddwyd fod dau wedi cydweithio ac ataliwyd y Goron iddyn nhw a choronwyd Meirion Evans.
"Gobeithio y bydd teilyngdod eleni."
Dywedodd fod y paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod yn mynd yn dda a'i fod yn hapus â'r arian sydd wedi ei godi gan y pwyllgor apêl lleol a gan noddwyr.
Hefyd mae nifer galonogol, meddai, o docynnau wedi eu gwerthu'n barod ar gyfer y cyngherddau nos ac mae nifer y cystadleuwyr ar y cyfan yn uwch na'r arfer bron ymhob cystadleuaeth.
Bydd y Goron yn cael ei chyflwyno mewn seremoni ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ddydd Llun Awst 1 a'r Gadair ddydd Gwener Awst 5.