Mae Byn Walters wedi byw yn Llydaw am 26 mlynedd
|
Mae Cymro sy'n cadw tafarn yn Llydaw wedi ei ganmol mewn llyfr arbennig am ei gwrw amrywiol.
Yn wreiddiol o Benydarren ym Merthyr Tudful, mae Bernard (Byn) Walters, 55 oed, wedi byw yn Llydaw am 26 o flynyddoedd.
Cafodd ei dafarn, Tavarn Ty Elise yn Plouye rhwng Carhaix a Huelgoat, tua 80 cilometr o borthladd Roscoff, glod yn Le Guide Du Routard.
Yn ogystal â chynnig cerddoriaeth fyw yn y dafarn draddodiadol mae bar Mr Walters yn cynnig pum math o wir gwrw.
"Mae gyda ni gwrw Llydaweg yn y dafarn sy'n dod o fragdy bach Brasserie des Deux-Rivières yn lleol," meddai.
"Ry'n ni'n cynnig cwrw neu 'coreff' fel mae'n cael ei alw yn Llydaweg."
Ym mar Ty Elise cychwynnodd y syniad i ddechrau gŵyl bop awyr agored fwyaf Ffrainc, Les Vieilles Charrues, 21 o flynyddoedd yn ôl.
Yn ogystal â chwarae cerddoriaeth Gymraeg mae ffrind Mr Walters, Meic Stevens, wedi perfformio'n gyson yn Nhy Elise.
Yn wreiddiol, roedd Mr Walters am deithio i Lydaw am bythefnos o wyliau gyda chriw o ffrindiau.
Ond cyfarfu â merch leol, ymgartrefu yno a chael dau o blant Dewi a Morwen. Bellach mae'n dad-cu am yr eildro.
Dywedodd ei fod yn teimlo'r un mor gartrefol yn Llydaw a Chymru a'i fod yn teithio'n ôl i dde Cymru i gwrdd â'i frawd pan fo'r hiraeth yn codi.