Daw pren derw'r gadair o ardal Meifod
|
Cartref crefftwr sydd wedi ysbrydoli ei gynllun ar gyfer Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Dywedodd John Parry, cyn athro coed, fod ei gartref sef Llwyn Derw ym Mhorthmadog yn cynnwys llawer o gelfi sy'n deillio o'r cyfnod Art Nouveau.
Roedd y mudiad pensaernïol hwnnw yn ei fri ym Mharis ac Ewrop yn bennaf rhwng 1892 a blynyddoedd cynharaf yr ugeinfed ganrif.
Oherwydd ei hoffter o waith y cyfnod hwnnw penderfynodd y byddai'n defnyddio'r dylanwadau wrth lunio cynllun y gadair.
"Mae gen i ddiddordeb mawr mewn Art Nouveau ac mae llawer o elfennau yn y tŷ yn dangos dylanwad y mudiad hwnnw - y lle tân, darnau copr a porslen," meddai.
"Felly dwi wedi mynd ar y trywydd hwnnw a'r cysylltiad Cymreig â'r Art Nouveau.
 |
Dwi'n teimlo ei bod yn anrhydedd i lunio'r gadair ar gyfer Eisteddfod yr ardal lle dwi'n byw
|
"Roedd pob gwlad yn Ewrop yn rhoi ei stamp ei hun ar y gwaith a stamp Celtaidd oedd i'r Art Nouveau yng Nghymru - roedd yn lluniaidd, urddasol a merchetaidd."
Dywedodd y gŵr sydd bellach wedi ymddeol iddo bori mewn llawer o lyfrau cyn ffurfio'r cynllun.
Mae'r gadair orffenedig, meddai yn "osgeiddig ac urddasol heb lawer o gorneli sgwâr."
Derw naturiol heb ei staenio o liw golau yw'r pren a daw o ardal Meifod sy'n cysylltu'r Eisteddfod eleni a'r Eisteddfod olaf yn y gogledd.
Symbolau amaethyddol
Cangen Sir Caernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru sy'n cyflwyno'r gadair eleni a hynny ym mlwyddyn dathlu 50 mlynedd ers ei ffurfio.
Roedd yr undeb yn awyddus i weld elfen amaethyddol yng nghynllun y gadair.
 |
Stamp Celtaidd oedd i'r Art Nouveau yng Nghymru - roedd yn lluniaidd, urddasol a merchetaidd
|
Dywedodd Mr Parry fod yr elfen honno i'w gweld yn y sedd ei hun sydd wedi ei wneud o ledr lliw gwinau.
Ar y lledr mae pwythiadau o symbolau amaethyddol sef patrymau o gyrn a nodau clustiau defaid a chafodd y gwaith hwnnw ei wneud gan Joyce Jones o Gricieth.
Dechreuodd Mr Parry weithio ar gynllun y gadair yn ystod Nadolig 2003.
Fel y gweddill oedd yn ymgeisio am y fraint o lunio Cadair yr Eisteddfod eleni roedd yn rhaid iddo gyflwyno model bychan o gadair oedd yn darlunio'i syniadau.
Ar ôl cael gwybod mai ef oedd i gael y dasg o lunio Cadair y Brifwyl bu'n gweithio arni ym Medi a Hydref 2004 ac wedyn am ryw awr neu ddwy bob dydd yn ôl y galw.
'Mwynhau'
"Roeddwn yn falch iawn mod i wedi llwyddo i wneud cynllun oedd yn ennyn diddordeb rhywun," meddai.
"Dwi'n teimlo ei bod yn anrhydedd i lunio'r gadair ar gyfer Eisteddfod yr ardal lle dwi'n byw."
"Dwi wedi mwynhau'r profiad o'i chreu yn fawr iawn gan nad ydw i wedi gwneud y math yma o waith ers blynyddoedd."
Dyma'r tro cyntaf i Mr Parry lunio cadair Eisteddfodol ond yn ystod ei yrfa fel athro gwaith coed fe luniodd nifer o gadeiriau bychan ar gyfer eisteddfodau ysgol.
Nawr mae'n edrych ymlaen i gael bod yn bresennol yn seremoni'r cadeirio ar faes yr Eisteddfod ddydd Gwener Awst 5 ac mae'n mawr obeithio y bydd teilyngdod.
Awdl mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 200 llinell ar y testun Gorwelion oedd gofynion yn y gystadleuaeth eleni a'r beirniaid yw Peredur Lynch, Emyr Lewis ac Alan Llwyd.
Yn ogystal â Chadair yr Eisteddfod bydd y bardd buddugol hefyd yn derbyn £750.