BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 19 Gorffennaf 2005, 13:07 GMT 14:07 UK
Ad-drefnu addysg: Trafod â rhieni
Rhieni a phlant yn protestio
Bu rhieni a phlant yn protestio yn erbyn y cynlluniau

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn trafod cynllun dadleuol i ad-drefnu addysg â rhieni wedi cyfarfod yn Rhuthun ddydd Mawrth.

Yn Chwefror gollyngodd y cyngor gynllun i gau 14 o ysgolion wedi protestiadau rhieni.

Ers hynny, mae fforwm ysgolion, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r ysgolion, wedi cyfarfod yn rheolaidd â swyddogion ac aelodau'r cyngor.

Bydd yr ymgynghoriad newydd yn ystyried yn fanylach holl gymunedau y sir a rôl ysgolion o fewn cymunedau.

Y disgwyl yw y bydd yn para o leiaf flwyddyn cyn unrhyw benderfyniad.

Ond dywedodd rhieni eu bod yn poeni o hyd y bydd rhaid i ysgolion gau yn y dyfodol.

'Addysg wych'

Dywedodd Elfed Lloyd, y mae ei blant yn mynd i Ysgol Rhewl, un o'r ysgolion dan fygythiad, fod yr ysgol yn cynnig "addysg wych".

"Mae'r nifer dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi codi i hyd at 45 ... dwi'n credu ei fod yn dangos fod yr ysgol yn rhan werthfawr o'r gymuned a bod plant yn yr ardal yn bendant yn defnyddio'r ysgol," meddai.

"Rhaid bod yn realistig," meddai cyfarwyddwr dysgu gydol oes y cyngor, Huw Griffiths, cyn y cyfarfod.

"Mae ganddon ni fwy o leoedd nag yr ydyn ni eu hangen o ran y plant ac felly alla i ddim dweud na fydd ysgolion cau."

Dywedodd y Cynghorydd Dewi Owen, sydd â chyfrifoldeb am addysg o fewn y cyngor, ei fod e ac arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Rhiannon Hughes, wedi cyfarfod ag ysgolion, y cymunedau ehangach a chynnal seminarau ag aelodau'r cyngor.

"O'r adborth sydd wedi dod mae agwedd newydd yn amlygu ei hun gan y grŵp sy'n edrych ar ddyfodol yr ysgolion.

Cymunedau

"Mae 'na deimlad fod angen symud oddi wrth y weledigaeth wreiddiol ac edrych ar yr ysgolion yng nghyd-destun y cymunedau lleol."

Yn Chwefror bu rhieni a disgyblion nifer o ysgolion cynradd oedd o dan fygythiad yn protestio tu allan i swyddfeydd y cyngor.

Roedd y cyngor wedi dweud yn wreiddiol fod gostyngiad yn nifer y disgyblion yn golygu y byddai tua 1,600 o leoedd gwag erbyn 2006.

Y bwriad cyntaf oedd codi tair ysgol newydd ym Mhrestatyn, Rhuthun a'r Rhyl.

Roedd y cyngor, sy'n gyfrifol am 52 o ysgolion, wedi dweud fod gormod o blant yn rhai o ysgolion yr arfordir a lleoedd gwag mewn ysgolion eraill.

Mae rheini wedi honni y byddai cau'r 14 o ysgolion gwledig wedi bod yn ergyd fawr i'r cymunedau.

'Gwerthfawr'

Nid Cyngor Sir Ddinbych yw'r unig gyngor i drafod dyfodol yr ysgolion bach a gwledig.

Mae sawl sir drwy Gymru, gan gynnwys Powys a Chaerfyrddin, yn ystyried cynlluniau ad-drefnu addysg.

Ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd ddydd Mawrth cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith piced y tu allan i babell Cyngor Sir Caerfyrddin.

Dywedodd y gymdeithas mai'r nod oedd "tynnu sylw at yr eironi mai Sir Caerfyrddin sy'n noddi'r sioe eleni sy'n benllanw ymdrechion ei chymunedau gwledig, ac eto bod y cyngor sir yn ceisio cau degau o ysgolion pentrefol."




HEFYD:
'Dal i ystyried dyfodol ysgolion'
21 Maw 05 |  Newyddion
Gollwng cynllun cau ysgolion
22 Chwef 05 |  Newyddion
Pennaeth addysg yn poeni
21 Chwef 05 |  Newyddion
'Cau neu uno 14 ysgol'
15 Chwef 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^