Fe ddadfeiliodd Camlas Trefaldwyn 60 mlynedd yn ôl
|
Mae cynllun gwerth miliynau o bunnoedd i adfer Camlas Trefaldwyn gydag addewid o 100 o swyddi wedi ei gyhoeddi.
Mae'r prosiect i gysylltu'r gamlas yn y canolbarth gyda'r rhwydwaith yn Lloegr wedi ei gyflwyno i Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau Seneddol.
Byddai cam cyntaf y prosiect £45m yn cysylltu Gronwen yn Sir Amwythig gyda'r Trallwng ym Mhowys.
Byddai ail gam i ddilyn a fyddai'n ymdrin â diwedd y gamlas yn Y Drenewydd fel rhan o'r cynllun i adfer y rhwydwaith cyfan sy'n 35 milltir.
Mae dogfen o'r enw Camlas Trefaldwyn: Adfywio trwy Ddatblygu Cynaliadwy wedi ei lansio yn y cynulliad a Thŷ'r Cyffredin yr wythnos hon.
'Manteision'
Dywedodd Tamsin Dunwoody, y dirprwy weinidog dros ddatblygu economaidd a thrafnidiaeth yn y cynulliad: "Mae lansio'r ddogfen hon yn enghraifft wych o bartneriaeth yn gweithio a bydd yn caniatáu i'r prosiect i adfer Camlas Trefaldwyn i symud gam yn nes.
"Yn ei dro bydd hyn yn dod â manteision mawr i'r ardal yn nhermau datblygu economaidd, twristiaeth a datblygu cynaliadwy."
Mae'r 15 aelod o Bartneriaeth Camlas Trefaldwyn, sy'n cynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau bywyd gwyllt, cychod a threftadaeth, yn cefnogi'r strategaeth.
Dywedodd un o gynghorwyr Powys, Richard Noyce: "Pe baen ni'n gallu agor Camlas Trefaldwyn yn llawn yna byddai hynny yn ei gysylltu â'r rhwydwaith cenedlaethol o gamlesi."
'Pwysig'
"Fe fydd hyn yn denu ymwelwyr i'r ardal - rhai sy'n defnyddio'r gamlas ei hun neu'r rhai sy'n cerdded ar ei hyd," meddai Mr Noyce, sy'n cynrychioli ward Gogledd Llanllwchaearn yn Y Drenewydd.
"Mae ei adfer yn bwysig iawn oherwydd y manteision a ddaw yn ei sgil.
"Dwi'n ei gefnogi'n llwyr ac mae pawb i'w weld yn awyddus iawn i weithredu'r cynllun."
Mae'r gamlas ar agor o'i gyffordd gyda Chamlas Llangollen i Gronwen, ger Croesoswallt, Sir Amwythig sydd tua saith milltir.
Mae'n amhosib teithio gyda chwch ar weddill y gamlas oherwydd rhwystrau o ganlyniad i ffyrdd neu chwyn, ac eithrio rhan 11 milltir ger Y Trallwng.