BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Chwefror 2006, 07:27 GMT
Cymro: 'Braint' agor gwyl Berlin
Sigourney Weaver yn Snow Cake
Mae Weaver yn chwarae rhan mam awtistig

Ffilm ddiweddara un o gyfarwyddwyr amlycaf Cymru oedd yn agor gŵyl ffilm ryngwladol yn Yr Almaen nos Iau.

Yng Ngŵyl Ffilm Berlin yr oedd Snow Cake yn cael ei dangosiad cyhoeddus cyntaf drwy'r byd.

Cyfarwyddwr y ffilm yw Marc Evans o Gaerdydd a'r prif actorion yw Sigourney Weaver, Alan Rickman a Carrie-Anne Moss.

Mae'r ffilm wedi cael gwahoddiad i gystadlu am brif wobr yr ŵyl, yr ail yn y diwydiant ar l GŴyl Ffilm Cannes.

Yn Canada y cafodd Snow Cake ei ffilmio.

Treuliodd Evans fisoedd yn nhre Wawa yng ngogledd Ontario yn cynllunio o flaen llaw ac oherwydd y galw am wasanaethau'r prif actorion bu'n rhaid ffilmio'r cyfan mewn 27 diwrnod.

Adrodd y mae'r ffilm hanes Alex (Rickman) sy'n goroesi damwain a laddodd ferch ifanc.

Mae mam y ferch, Linda (Weaver) yn awtistig. Wrth ei helpu i drefnu'r angladd a chael perthynas fyrhoedlog 'r ddynes drws nesa (Moss), mae Alex yn dechrau gweld y byd drwy olau gwahanol ac yn dod i delerau cholled yn y gorffennol.

Codi ysbryd

"Mae'r amgylchiadau sy'n achosi iddyn nhw gwrdd yn drasig ond eto mae'r ffilm ei hun yn eitha comic," meddai Evans.

"Ysbryd y peth yw er bod y fenyw yn berson sydd dan anfantais, mae hi'n gweld y byd mewn ffordd wahanol.

Marc Evans
Mae Marc Evans yn teimlo'n freintiedig i agor yr wyl

"Mae'r dyn yn gadael y dre fach hon yn gweld pethau'n wahanol a'i ysbryd wedi codi."

Angela Pell, mam i blentyn awtistig, ysgrifennodd y sgript ac ysbrydoliaeth cymeriad Linda yw dynes awtistig o Loegr sy'n trafod ei chyflwr mewn digwyddiadau cyhoeddus.

Doedd dim angen llawer o berswd ar y prif actorion i fod yn y cynhyrchiad er iddyn nhw ymddangos mewn nifer o ffilmiau amlwg.

Mae Rickman wedi ymddangos yn ffilmiau Harry Potter a Robin Hood: Prince of Thieves, a Moss yn nghyfres boblogaidd The Matrix.

Ffydd

Cafodd Weaver ei henwebu am wobrau Oscar am ei pherfformiadau yn y ffilmiau Gorillas in the Mist, Aliens a Working Girl.

Carrie-Anne Moss ac Alan Rickman yn Snow Cake
Fe fuddsodd Rickman arian ei hun yn y ffilm

Cymaint oedd ffydd Rickman yn y sgript, buddsoddodd ei arian ei hun yn y prosiect.

"Mae cymaint o obsesiwn gan stiwdios Hollywood ag ieuenctid. Mae llai o gyfleoedd i actorion chwarae cymeriadau go iawn wrth iddyn nhw fynd yn hŷn," meddai Evans.

Bydd mwy na 300 o ffilmiau'n cael eu dangos yn ystod yr ŵyl sy'n parhau tan Chwefror 19 ond dim ond 10 ohonyn nhw fydd yn cystadlu am y brif wobr.

"Mae'n fraint cael agor yr ŵyl yn swyddogol ac i gael cystadlu. Mae'n dangos rhyw fath o stamp."

Ac mae ffilmiau Evans yn cynnwys House of America, Resurrection Man, Camgymeriad Gwych, My Little Eye, Dal: Yma / Nawr a Trauma.

Ymhlith ei brosiectau nesa mae The Dead Wait gyda'r actor Colin Firth a ffilm Caitlin am wraig y bardd Dylan Thomas gyda Miranda Richardson a Michael Sheen yn actio'r cwpl.




HEFYD:
Prif wobr i ffilm Gymraeg
04 Ebr 04 |  Newyddion
Ffilm Gymraeg yn Efrog Newydd?
24 Tach 03 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^