Mae Chris Cope a'i wraig Rachel yn symud i Gaerdydd yng Ngorffennaf
|
Mae Americanwr 30-oed wedi ennill lle i astudio ar gyfer gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl dysgu'r iaith ar y we.
Does dim cysylltiad teuluol rhwng Chris Cope o Bloomington, Minnesota, â Chymru ond ar ôl gweld gwefan BBC Cymru Wales Learn yn Hydref 2000 aeth ati i ddysgu'r iaith.
Mae'r golygydd copi i deledu a radio yn America yn ysgrifennu blog ar-lein sy'n cael ei gyhoeddi ar wefannau ar draws yr Unol Daleithiau.
Bydd y dyn sydd bod i Gymru chwe gwaith yn symud bron 4,000 o filltiroedd i Gaerdydd gyda'i wraig Rachel yng Ngorffennaf.
Dywedodd fod yr "iaith wedi gafael" ynddo a'i fod wedi dysgu ei hun gyda chymorth y wefan.
Blog
"Roeddwn i'n defnyddio'r wefan bob dydd - dyna sut dwi wedi dysgu Cymraeg. Mae fy Nghymraeg i gyd yn dod o raglenni'r BBC a chyfresi Catchphrase.
"Fyddwn i ddim wedi ennill lle ym Mhrifysgol Caerdydd heb help y BBC."
Bu'n ymarfer ei iaith ysgrifenedig drwy greu blog yn Gymraeg - cofnod dyddiol ar-lein o'i farn am Gymru, America a bywyd yn gyffredinol.
"Mae'n rhaid i mi gyfaddef fod gen i lawer i'w ddysgu am Gymru," meddai. "Ond mae Cymru yn rhan o 'nghalon i.
"Dwi'n siwr y byddai fy ngwraig a fy ffrindiau yn dweud fy mod i dipyn yn wallgof, ond dwi'n teimlo'n gryf iawn mai yng Nghymru y mae fy nyfodol."
Dywedodd ei fod yn ystyried cymryd rhan yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, gwneud cwrs doethuriaeth yn y Gymraeg ac efallai ysgrifennu nofel drwy gyfrwng ... y Gymraeg, wrth gwrs.