BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 5 Chwefror 2006, 11:44 GMT
Cymru'n colli'n erbyn Lloegr
Mark Cueto yn sgorio cais
Sgoriodd Mark Cueto gais i Loegr

Colli wnaeth tm rygbi Cymru o 13 i 47 yn erbyn Lloegr yn ngm agoriadol gyntaf y ddwy wlad ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Llwyddodd Lloegr i groesi am chwe chais yn Twickenham brynhawn dydd Sadwrn.

Cafwyd ceisiau gan Mark Cueto a Lewis Moody i roi Lloegr 15-10 ar y blaen, cyn i Martyn Williams ymateb i Gymru.

Croesodd Mike Tindall am drydydd cais i Loegr wedi'r egwyl cyn i dri chais hwyr brofi'n ormod i'r Cymry.

Aeth Lawrence Dallaglio a Matt Dawson drosodd am geisiau dadleuol cyn i Tom Voyce groesi symudiad olaf y gm.

Nid yw Cymru wedi ennill yn Twickenham ers 1988 ac er nad oedd olwyr Lloegr ar eu gorau, roedd pencampwyr y byd yn llawer rhy gryf i Gymru.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^