BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 6 Gorffennaf, 2005, 11:48 GMT 12:48 UK
Dawnswyr yn protestio dros fisas
Dawnsyr Dolce Delchev
Mae'r dawnswyr yn protestio yn Macedonia ddydd Mercher
Mae dawnswyr o Macedonia oedd i fod i gystadlu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnal protest tu allan i Lysgenhadaeth Prydain ddydd Mercher oherwydd ffrae am fisas.

Roedd y grŵp yn flin oherwydd bod swyddogion Prydain yn y llysgenhadaeth yn Skopje, prifddinas Macedonia, wedi gofyn wrthyn nhw am berfformio i brofi eu bod yn ddawnswyr go iawn.

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ystyried lleisio protest swyddogol am y peth i'r Swyddfa Dramor.

Ond dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor fod yr honiad ei bod wedi rhwystro'r dawnswyr rhag teithio yn "or-ddweud mawr".

Dywedodd y dawnswyr eu bod wedi penderfynu peidio â teithio i Gymru oherwydd na chafodd y grŵp cyfan fisas.

Ac maen nhw am berfformio fel gwrthdystiad y tu allan i Lysgenhadaeth Prydain ar yr union adeg yr oedden nhw i fod i gystadlu yn Llangollen.

Dywedodd llefarydd y Swyddfa Dramor nad oedd y grŵp, Dolce Delchev, wedi cyflwyno'r gwaith papur cywir, a gofynnwyd iddyn nhw fynd i'r llysgenhadaeth tri diwrnod cyn eu dyddiad teithio.

'Gor-ddweud'

Penderfynodd swyddogion y byddai'n cymryd gormod o amser i'w cyfweld fesul un, felly gofynnwyd i'r grŵp berfformio ym maes parcio'r llysgenhadaeth "i brofi eu bod yn ddawnswyr".

"Rwyf yn deall eu bod wedi bod yn ddigon hapus i wneud hynny, a wnaethon nhw berfformio am funud," meddai'r llefarydd.

Rhoddwyd fisas i 35 ohonyn nhw, er bod 41 wedi gwneud cais, meddai.

Ond mae Dolce Delchev yn mynnu bod eu ceisiadau am fias wedi eu gwrthod, ac nad oedd modd iddyn nhw deithio i Brydain.

Mae'r ffrae wedi cael sylw yn y wasg genedlaethol yn Macedonia a pherfformiodd y dawnswyr o flaen camerâu teledu ddydd Mawrth fel protest.

Mewn e-bost at swyddogion yr eisteddfod, dywedodd arweinydd y grŵp, Krste Krivecevski, eu bod wedi cystadlu dros 500 o weithiau mewn 20 gwlad ac erioed wedi cael gwrthod fisas o'r blaen.

"Mae llawer yn gwybod nawr am ein brwydr i gael fisas - mae o wedi bod ar dudalennau blaen y papurau cenedlaethol ac wedi bod ar brif raglen newyddion," meddai Mr Krivecevski.

"Mae Llysgenhadaeth Macedonia yn Llundain ac arweinwyr cymuned Eglwys Macedonia ym Mhrydain wedi clywed am y gwarth yma a 'da ni'n deall eu bod am ymateb yn swyddogol i'r peth.

Dywedodd prif-weithredwr Eisteddfod Llangollen, Gwyn L. Williams: "Mae'n ymddangos i mi mai rhyw fân wleidydda sydd wedi digwydd yma yn hytrach na phryderon go iawn eu bod yn ceisio am loches ym Mhrydain."

Dywedodd llefarydd ar ran yr eisteddfod os oedd eu hymchwiliadau yn dangos bod sail i'r honiadau, y bydden nhw yn lleisio eu pryder i'r awdurdodau.




HEFYD:
Llangollen: Yr hen a'r newydd
05 Gorff 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^