BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf, 2005, 14:47 GMT 15:47 UK
'Gwendidau' ysgol dan fygythiad
Protest
Roedd 'na brotest yn gynharach eleni yn erbyn cau'r ysgol

Mae arolygwyr wedi beirniadu safonau dysgu a rheoli ysgol gynradd Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin sy o dan fygythiad.

Ysgol Mynyddcerrig yng Nghwm Gwendraeth Ucha yw'r ysgol gyntaf yn y sir sy angen "mesurau arbennig" wedi i gorff arolygu Estyn fynd yno.

Mae'r rhieni yn ymgyrchu yn erbyn bwriad i i gau'r ysgol, rhan o gynllun ad-drefnu addysg y sir.

Er i'r arolygwyr ddweud fod ymddygiad y plant yn dda, roedd llawer "o wendidau pwysig," medden nhw, ar draws ystod o bynciau ac yn rheoli'r ysgol.

Dim ond 18 disgybl sydd yn yr ysgol, un o dair yng Nghwm Gwendraeth Uchaf allai gael eu huno oherwydd cynllun £110m y sir.

Ym Mawrth cerddodd plant Mynyddcerrig, Ysgol Bancffosfelen a Llangyndeyrn i gopa mynydd y pentref mewn protest.

Dywedodd Estyn mewn adroddiad ym Mawrth fod "arweiniad a rheolaeth yr ysgol yn aneffeithiol" a "safonau yn isel mewn nifer helaeth o bynciau".

Monitro

Roedd cyraeddiadau plant yn llawer is na thargedau Llywodraeth y Cynulliad, meddai.

Mae corff llywodraethol yr ysgol wedi cael 45 diwrnod ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi i ddangos sut y mae'n bwriadu cyflawni prif argymhellion Estyn.

Gan fod angen "mesurau arbennig," bydd arolygwyr yn mynd i'r ysgol bob tymor yn lle pob pedair neu bum mlynedd i fonitro'r cynnydd.

Ysgol Mynyddcerrig
'Gwendidau': Ysgol Mynyddcerrig

Un ysgol arall yng Nghymru sy yn yr un categori, Ysgol Annibynnol Pentwyn yn Hillcrest, Powys.

Mae pum ysgol arall ā "gwendidau difrifol," ysgolion lle gall y gweinidog addysg ymyrryd a rhedeg yr ysgol os nad yw'r safon yn codi.

Ar hyn o bryd mae pennaeth dros dro yn Ysgol Mynyddcerrig am fod y pennaeth yn absennol oherwydd salwch.

Dywedodd Vernon Morgan, Cyfarwyddwr Addysg Sir Gaerfyrddin, fod yr adroddiad yn "siomedig".

"Mae'r awdurdod addysg lleol, y llywodraethwyr a staff yn paratoi cynllun gweithredu i geisio taclo'r problemau."

Ac mae disgwyl i'r llywodraethwyr gyfarfod ā'r rhieni ar ōl ysgol ddydd Mawrth cyn gwneud unrhyw sylw.




HEFYD:
Cyfarfod i uno ymgyrch ysgolion
11 Chwef 05 |  Newyddion
Poeni am gau ysgolion
14 Ion 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^