BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 25 Ionawr 2006, 10:05 GMT
Iaith: 'Consensws yn datblygu'
Logo Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg oedd un o'r siaradwyr nos Fawrth.

Roedd dros 100 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus nos Fawrth i drafod y galw am ddeddf iaith newydd.

Ymhlith y siaradwyr yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, roedd aelodau'r gwrthbleidiau, cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith ac arbenigwr ar gynllunio ieithyddol.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg oedd wedi trefnu'r cyfarfod wedi cyfnod o ymgynghori ‚ phleidiau gwleidyddol a dywedodd cyn gadeirydd y mudiad fod "consensws yn datblygu ynglŷn ‚'r math o egwyddorion sydd angen eu cynnwys mewn deddf iaith newydd".

Ond mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud nad oes angen deddf "gan fod digon o ddarpariaeth yn y ddeddfwriaeth bresennol".

Y dasg nawr yw llunio agenda i allu symud ymlaen i bwyso ar y llywodraeth
Huw Lewis, cyn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith
Ymhlith y siaradwyr nos Fawrth roedd tri Aelod Cynulliad sef Owen John Thomas o Blaid Cymru, Eleanor Burnham o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Lisa Francis o'r Blaid Geidwadol.

Roedd nifer o unigolion wedi anfon negeseuon o gefnogaeth, gan gynnwys Dafydd Wigley, Dewi Watcyn Powell a'r Arglwydd Gwilym Prys Davies.

Fe fu'r Athro Colin Williams, aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac arbenigwr ar gynllunio ieithyddol, a chadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith John Elfed Jones yn annerch.

'Llunio agenda'

Dywed Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod datganiad diweddar Bwrdd yr Iaith, sy'n galw am adolygu deddf iaith 1993, wedi bod yn gyfraniad pwysig i'r drafodaeth ynglŷn ‚ deddf iaith newydd.

Nawr mae'r gymdeithas yn galw ar y pleidiau gwleidyddol i amlinellu eu polisÔau ynglŷn ‚ deddf iaith newydd yn eu maniffestos ar gyfer etholiad y cynulliad yn 2007.

"Mae yna gonsensws yn datblygu ynglŷn ‚'r math o egwyddorion sydd angen eu cynnwys mewn deddf iaith newydd," meddai Huw Lewis, cyn cadeirydd y mudiad.

"Mae'r rheiny'n cynnwys yr angen am statws swyddogol i'r Gymraeg, sefydlu hawliau i bawb yng Nghymru i ddefnyddio'r Gymraeg a hefyd yr angen i ystyried ymestyn y ddeddfwriaeth i sectorau newydd ac ar yr un pryd normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg o fewn gwasanaethau cyhoeddus.

"Y dasg nawr yw llunio agenda i allu symud ymlaen i bwyso ar y llywodraeth," meddai.

Dywedodd ei bod yn ymddangos fod yr agenda hwnnw wedi datblygu yn ystod y drafodaeth nos Fawrth.

"Rydyn ni wedi clywed llefarydd o Blaid Cymru, y TorÔaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwneud synau ynglŷn ‚ symud i'r cyfeiriad yma," meddai.

Cyn y cyfarfod dywedodd John Elfed Jones, cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith, nad oes angen deddf iaith ar hyn o bryd er nad yw'r ddeddf bresennol yn mynd cyn belled ag yr oedd e a swyddogion eraill y bwrdd wedi gobeithio yn 1993.

'Cywilydd'

Galw y mae am gryfhau'r ddeddfwriaeth bresennol er mwyn creu mwy o gyfleoedd i bobl "fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg".

Dywedodd ei fod yn amau bwriad y cynulliad i ysgwyddo cyfrifoldebau Bwrdd yr Iaith o Fawrth 2007 ymlaen.

Gam wrth gam, mae angen i ni wella'r cyfleoedd i bobl fyw eu bywydau'n gyflawn drwy'r Gymraeg
John Elfed Jones, cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith
"Nid pawb sydd yn sylweddoli fod y ddeddf yn dileu Deddf Uno 1536 oddi ar y llyfr statud gan roi dilysrwydd i'r Gymraeg yn ogystal ag i'r Saesneg," meddai wrth BBC Cymru'r Byd.

"Mi wnaeth sefydlu bwrdd statudol am y tro cyntaf i warchod a hybu'r iaith ac mae'n gywilydd o beth fod y cynulliad yn mynd i ddiddymu hwnnw.

"Yn ddi-os mi fydd ymyrraeth bleidiol yn digwydd ac mi ddylai'r iaith fod uwchlaw ymyrraeth o'r fath."

Dywedodd mai gwendid penna'r ddeddf bresennol yw diffyg gorfodaeth ar y sector breifat i ddarparu gwasanaethau cwbwl ddwyieithog.

"Tydw i ddim yn cyfeirio at siopau bach ond ystyriwch y banciau, ystyriwch y siopau mawr sy'n cyflogi mwy na 10 neu 15 o bobl. Fe ddylen nhw gynnig gwasanaeth dwyieithog," meddai.

Help i fusnesau

"Er bod y ddeddf yn rhoi dilysrwydd cyfartal i'r iaith, er bod hawl i bobl fyw eu bywydau trwy'r Gymraeg dydyn nhw ddim yn cael cyfle i wneud hynny.

"Mae ffederasiwn y cyflogwyr, y CBI, yn dadlau nad ydi cynnig gwasanaeth dwyieithog yn gystadleuol ond os ydi pob siop a busnes yng Nghymru yn gorfod ei wneud, mi fydd o'n gystadleuol.

"Onid ydi o'n bosib i'r llywodraeth wneud rhywbeth i'w helpu nhw efo'r gost ychwanegol? Mae grantiau ar gael o Frwsel ac mae angen edrych i weld a oes modd gwneud rhywbeth o ran y system ad-drethol os yw busnes yn gwario hyn a hyn ar ddarparu gwasanaeth drwy'r Gymraeg."

Dywedodd nad oedd "pethau ddim yn mynd i newid dros nos".

"Ond gam wrth gam, mae angen i ni wella'r cyfleoedd i bobl fyw eu bywydau'n gyflawn drwy'r Gymraeg," meddai.

'Gweledigaeth glir'

Roedd aelodau o bob un o wrthbleidiau'r cynulliad yn y cyfarfod cyhoeddus nos Fawrth ond doedd dim cynrychiolaeth o Lywodraeth y Cynulliad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad bod Alun Pugh, y gweinidog ‚ chyfrifoldeb dros yr iaith, wedi dewis peidio mynd i'r cyfarfod am ei fod wedi cwrdd ‚ Chymdeithas yr Iaith ar sawl achlysur i drafod y galw am ddeddf iaith newydd.

Dros y misoedd diwethaf mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud nad oedd angen deddf newydd ar hyn o bryd a bod ganddi "weledigaeth glir hirdymor o Gymru ddwyieithog".

Fis Hydref, wrth gyfeirio at y bwriad i ddod ‚ Bwrdd yr Iaith Gymraeg o dan adain Llywodraeth y Cynulliad, dywedodd Mr Pugh y byddai hynny'n "cryfhau ei atebolrwydd a'i dryloywder".

Dywedodd na fyddai "lleihad o gwbl yn y mesurau i hyrwyddo'r iaith Gymraeg" a bod Llywodraeth y Cynulliad am sefydlu dyfarnydd fel swydd gyfreithiol ar wah‚n.

Yn y cyfamser ddydd Mawrth fe drechodd aelodau Llafur yn y cynulliad gynnig gan y Ceidwadwyr yn beirniadu ymdrechion y llywodraeth i hybu'r Gymraeg.

Dadl y Ceidwadwyr oedd bod Llywodraeth y Cynulliad wedi methu ‚ sicrhau cynnydd ac i roi cefnogaeth ddigonol o ran hybu amcanion Iaith Pawb.

Cael eu gwrthod hefyd wnaeth cynigion y Democratiaid Rhyddfrydol am welliannau'n beirniadu polisÔau Llywodraeth y Cynulliad mewn perthynas ‚'r iaith.

Yn ystod y ddadl brynhawn Mawrth mynegodd nifer o'r aelodau bryderon ynghylch sylwadau beirniadol am Fwrdd yr Iaith Gymraeg gafodd eu priodoli'n ddiweddar i un o swyddogion y gweinidog diwylliant, ond ni wnaeth Alun Pugh sylw mewn ymateb.




HEFYD:
Deddfau iaith: Galw am newid
19 Ion 06 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^