Mae adeilad newydd y cynulliad yn agor ym mis Mawrth
|
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn chwilio am gynlluniau 'gwreiddiol' adeilad Senedd Cymru.
Pensaer o Sir Efrog oedd yn gyfrifol am y cynllun 80 mlynedd yn ôl.
Frank Chippendale o Otley enillodd y wobr gyntaf yn adran bensaerniaeth Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1926.
Dywedodd yr Eisteddfod y byddai'n amserol gweld y gwaith unwaith eto am fod y Brifwyl yn dychwelyd i'r ddinas eleni.
Enillodd Mr Chippendale £100 am ddylunio adeilad ar gyfer Senedd Cymru.
"Byddai'n addas os gallwn ni ddod o hyd i ragor o fanylion ynglŷn â'r pensaer yma a lleoliad ei gynlluniau ar gyfer Senedd-dŷ i Gymru," meddai Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod Genedlaethol, Robyn Tomos.
"Yn enwedig, gan fod adeilad Senedd y Cynulliad Cenedlaethol ar fin agor a'r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Abertawe eto eleni.
Urddasol
Y beirniad oedd Arthur Keen, Is-lywydd RIBA (Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain) a ddywedodd fod cynllun Frank Chippendale yn rhagori ymhob ffordd.
"Mae'r cynllun yn tarddu o adeilad coffaol gan gyflwyno nodweddion pwysig sydd ymhob achos o faint cywir," meddai.
Yn ôl adroddiad yn y Western Mail ar y pryd, roedd Mr Chippendale yn 23 oed ac wedi mynd i'r Unol Daleithiau adeg yr Eisteddfod gan ei fod wedi ennill ysgoloriaeth deithio.
Dywedodd adroddiad am y gystadleuaeth ar Orffennaf 26 1926 yn y Western Mail mai darluniau cain "Pompeius" oedd gwaith yr enillydd.
Roedd y cynllun yn "urddasol, gosgeiddig ac yn goeth".
Aeth yn ei flaen i ddweud bod delweddau o'r gwaith wedi eu hysbrydoli gan gofeb Victor Emmanuel yn Rhufain.