BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 21 Ionawr 2006, 17:13 GMT
Clwb pÍl-droed yn dathlu 125 oed
TÓm PÍl-Droed Bae Colwyn
Fe fydd y tÓm presennol yn edrych ymlaen at y dathlu

Mae tÓm pÍl-droed yn dathlu 125 mlynedd dros y penwythnos.

Chwaraeodd Clwb PÍl-Droed Bae Colwyn y gÍm gyntaf ar Ionawr 22 1881.

I nodi'r dathlu fe wnaeth y clwb yn claddu capsiwl arbennig ar Ffordd Llanelian ddydd Sadwrn.

Ychydig cyn y gic gyntaf yn erbyn Chorley cafodd llun o'r dorf ei dynnu o ganol y cae, ac yna'n cael ei roi yn y capsiwl, ynghyd ‚ llun o'r tÓm, a phethau cofiadwy sy'n ymwneud ‚'r clwb.

Collodd Bae Colwyn o ddwy gŰl i un ddydd Sadwrn.

Gweithwyr o Sir Gaerhirfryn a Chanolbarth Lloger ddaeth a'r gÍm i'r dref Fictorianaidd oedd yn tyfu ar ddiwedd y 19fed ganrif.

Roedden nhw'n dod i Ogledd Cymru i weithio fel adeiladwyr.

Mae llawer wedi digwydd ac wedi newid mewn 125 mlynedd a dwi'n gobeithio bod hyn o ddiddordeb i bobl hyd yn oed os nad ydyn nhw'n dilyn pÍl-droed," meddai Andy Owens, awdur cyfrol sydd wedi ei chyhoeddi i gyd-fynd a'r dathlu.

Cyfoeth o'r dref

Mae'r tÓm eleni yn chwarae yn Adran Gyntaf Cynghrair yr UniBond ac er mai prin ydi'r wybodaeth am ddyddiau cynnar y clwb, roedd y tÓm yn chwarae yng Nghynghrair PÍl-Droed Arfordir Gogledd Cymru o 1901 hyd y daeth y gystadleuaeth i ben yn 1921.

Enillodd y clwb Gwpan y Gynghrair yn 1928.

Tan ganol y 1980au roedd y clwb yn chwarae ar faes ym Mharc Eirias cyn symud i'w cartref presenol ar Ffordd Llanelian.

TÓm Bae Colwyn yn 1964
Roedd tÓm 1964 yn chwarae ar Barc Eirias

Dywedodd Mr Owens bod y clwb wedi wynebu trafferthion ariannol a allai fod wedi dod a diwedd iddyn nhw ond mae'r clwb mewn sefyllfa llawer mwy iach erbyn hyn.

"Dros y blynyddoedd mae cyfoeth y tÓm wedi cael ei gysylltu gyda chyfoeth economaidd y dref," meddai.

"Fe gefais i gymorth i baratoi'r llyfr, sy'n llawn straeon.

"Mae 'na sŰn am gyfnod John Neal, a oedd yn chwarae i Gymru (yn 1930) ac i'r Bae a chyfnod Bryn Jones a oedd yn chwarae a rheoli'r clwb yn y 1970au a'r 1980au."

Oddi ar y cae mae'r clwb yn edrych ymlaen at nifer o ddigwyddiadau yn ystod y tymor i nodi'r 125 mlynedd.

Maen nhw'n gobeithio ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair UniBond, datblygu'r safle gyda stand newydd a gwella'r llifoleuadau.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^