Mae mwy o alw am setiau sgrîn fflat
|
Mae cwmni Sony wedi cyhoeddi y bydd un ffatri yn cau a swyddi'n diflannu mewn ffatri arall.
Bydd 650 o swyddi'n diflannu wrth i ffatri Pen-y-bont ar Ogwr gau ac wrth i swyddi ddiflannnu yn ffatri Pen-coed.
Roedd y cyhoeddiad ddydd Mercher a dywedodd y cwmni fod mwy o alw am setiau teledu sgrîn gwastad yn lle'r rhai traddodiadol.
Mae cyfnod ymgynghorol wedi cychwyn.
Bydd 400 o swyddi yn cael eu colli yn ffatri Pen-y-bont ar Ogwr a 250 o swyddi eraill yn diflannu yn ffatri Pen-coed.
Daw'r cyhoeddiad ar ôl i 300 o weithwyr golli eu gwaith yn gynharach eleni.
Yn y Senedd ddydd Mercher dywedodd y Prif Weinidog Tony Blair ei fod yn flin am y cyhoeddiad am y swyddi ac addawodd y byddai'r llywodraeth yn ceisio helpu'r rhai fyddai'n colli eu gwaith.
Mae swyddogion undeb wedi cynnal cyfarfodydd yn Sony ddydd Mercher.
Dywedodd Sony eu bod yn difaru ond bod y gostyngiad yn y galw am y setiau traddodiadol oedd yn cael eu cynhyrchu ym Mhen-y-bont wedi arwain at y penderfyniad.
"Mae disgwyl i'r swyddi gael eu colli o fewn blwyddyn.
"Byddwn ni'n gwneud popeth posib i ddal i ddatblygu safle Pencoed ac i ddatblygu sgiliau," meddai'r datganiad.
Hen-ffasiwn
Un o'r problemau y mae Pen-y-bont yn ei hwynebu yw bod y setiau teledu sy'n cael eu cynhyrchu yno yn tueddu i fod yn hen-ffasiwn.
Bydd gwaith cynhyrchu camerâu digidol a fideo yn parhau ym Mhen-coed.
Ym Mhen-y-bont mae'r gweithwyr yn cynhyrchu tiwbiau ar gyfer setiau traddodiadol tra bod ffatri Pen-coed yn eu gosod i mewn i'r setiau ar gyfer y farchnad ym Mhrydain.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr ei fod yn ddiwrnod trist i'r dref a de Cymru.
"Mae'r cwmni wedi bod yma am dros 30 mlynedd ac yn rhan o'r gymuned.
"Byddwn ni'n gwneud ein gorau i gydweithio â'r asiantaethau a Sony i sicrhau gwaith a chyfleoedd i'r rhai sy'n colli eu gwaith.
"Er bod diswyddiadau ym Mhen-coed mae 'na lygedyn o obaith eu bod nhw'n mynd i ddal i gynhyrchu yno."
Dywedodd Gweinidog Datblygu Economaidd y Cynulliad, Andrew Davies, fod ei feddyliau gyda'r rhai sy'n wynebu cael eu diswyddo.
"Fe fyddwn ni'n gwneud popeth y gallwn i'w helpu un ai i gael gwaith yn rhywle arall neu os oes angen i gael eu hail hyfforddi," meddai.
"Mae hwn yn benderfyniad masnachol gan Sony gan eu bod, yn ffatri Pen-y-bont yn gwneud hen ffurf o dechnoleg¿.ac nad oes galw amdano.
"Nid yw'n newyddion da ond rydyn ni wedi wynebu diswyddiadau sylweddol yn y gorffennol ac wedi rheoli'r rhai hynny'n effeithiol."
'Cam yn ôl'
Mae Janet Davies, AC Plaid Cymru ac aelod o'r Pwyllgor Datblygiad Economaidd, wedi dweud fod y penderfyniad yn "gam yn ôl" i ardal Pen-y-bont a Phen-coed.
"Mae'r swyddi yma o safon uchel ac roedden nhw'n bwysig iawn i'r economi lleol," meddai.
"Dwi'n gobeithio y bydd Andrew Davies (y Gweinidog Datblygu Economaidd) yn cynnig help i'r rhai fydd yn colli eu gwaith."
Dywedodd Alun Cairns, AC Ceidwadol, fod y newyddion yn ergyd i'r ardal ac i economi Cymru.
"Dwi'n siwr fod hon yn ergyd i'r ardal ehangach.
"Mae gan Sony enw da am dalu cyflogau da a hyfforddi gweithwyr i safon uchel iawn.
Mae 900 yn gweithio yn Sony ar hyn o bryd
|
"Hwn oedd y cwmni cynta o Japan i fuddsoddi yn ne Cymru ac roedd yn cyflogi dros 5,000 ar un adeg.
"Rhaid canolbwyntio ar helpu'r teuluoedd ac rydym yn galw ar y cynulliad i helpu."
Dywedodd AS Ogwr, Huw Irranca-Davies, ei fod yn siomedig iawn.
"Mae gan Sony weithlu teyrngar iawn ym Mhen-y-bont ac maen nhw wedi bod yn ymwybodol o'r gostyngiad yn y cynnyrch.
"Ond roedden nhw'n gobeithio dal i weithio am beth amser eto.
"Mae'r newyddion sydyn yn ergyd ac rydym yn cydymdeimlo â'r teuluoedd.
"... rhaid sicrhau'r cymorth gorau i sicrhau dyfodol hir-dymor Sony yn yr ardal."
Dywedodd Kirsty Williams, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar ddatblygu economaidd, ei bod yn cydymdeimlo â'r gweithwyr ond hefyd beirniadodd y Gweinidog Datblygu Economaidd, Andrew Davies.
"Y tro diwethaf y gwnaeth ACau drafod diswyddiadau yn Sony fe honnodd y gweinidog ei fod wedi sefydlu tasglu i lunio cynllun ar gyfer gweithgynhyrchu, ond mae'n anodd nodi unrhyw weithredoedd sydd wedi bod o gymorth," meddai.
"Addawodd ymweld â Sony yn Japan ac eto heddiw mae'n cyfaddef na wnaeth y daith erioed. Mae ganddon ni bron i 16,000 yn llai o swyddi gweithgynhyrchu nag oedd ganddon ni yn 2001."