BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 19 Ionawr 2006, 20:26 GMT
Deddfau iaith: Galw am newid
Logo Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Bydd dyletswyddau'r bwrdd yn cael eu trosglwyddo ym Mawrth 2007
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn galw am newid deddfwriaeth yn ymwneud ‚'r iaith.

Ymhlith y cynigion y mae deddfau'n caniatŠu i bobl fynnu gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg a sicrhau fod y Gymraeg a'r Saesneg yn ieithoedd swyddogol Cymru.

Dywed Llywodraeth y Cynulliad ei fod yn fodlon trafod y syniadau ond na fyddai'n cefnogi deddfau newydd sydd ond yn gwarchod hawliau siaradwyr Cymraeg.

Bydd dyletswyddau'r bwrdd yn dod dan adain Llywodraeth y Cynulliad ym Mawrth 2007.

Mae'r Prif Weinidog, Tony Blair, ynghŷd ‚ Phrif Weinidog y Cynulliad, Rhodri Morgan, wedi cael copi o ddogfen gafodd ei chyhoeddi gan Fwrdd yr Iaith ddydd Iau.

Gwadu y mae cadeirydd y bwrdd, Meri Huws, mai ymgais i achub y cwango yw'r cynigion yn y ddogfen am sefyllfa ddedfwriaethol y bwrdd.

'Trafodaeth'

"Rydym yn ceisio cyfrannu at drafodaeth fydd yn arwain at ddyfodol newydd i Gymru, dyfodol yr ydym yn gobeithio a fydd, yn nhermau cynnydd yr iaith Gymraeg, yn parhau ymhell wedi Mawrth March 2007," meddai Ms Huws.

Hefyd ymysg y cynigion y mae mesurau i hybu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn y sector cyhoeddus a deddfwriaeth i "normaleiddio" defnydd o'r iaith, gan gynnwys sefydlu'r Gymraeg a'r Saesneg yn ieithoedd swyddogol Cymru.

Croesawu syniadau'r bwrdd y mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

"Trwy alw am adolygiad o Ddeddf Iaith 1993 (mae'r bwrdd) wedi uniaethu ei hun ‚'r rhai sydd yn mynnu Deddf Iaith gryfach," meddai swyddog ymgyrchu'r gymdeithas, Dafydd Morgan Lewis.

Gofyn y mae'r bwrdd am drosglwyddo'i ddyletswyddau'n esmwyth i lywodraeth y cynulliad ac mae'n galw am reolydd iaith annibynnol newydd i gael ei sefydlu dan y gyfraith cyn i hynny ddigwydd.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y cynulliad fod y gweinidog diwylliant Alun Pugh ‚ diddordeb mawr mewn hysbysu pobl ynghylch eu hawliau o ran yr iaith o dan y ddeddfwriaeth bresennol.

Ond fe ychwanegodd y llefarydd: "Ni fyddai unrhyw lywodraeth Lafur, naill ai yn awr neu yn y dyfodol, yn cefnogi'r syniad o ddeddfwriaeth gynradd newydd yn canolbwyntio'n unig ar hawliau pobl sydd eisoes yn siarad Cymraeg."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^