Mae 'na alw am fwy o bobl ifanc i gael eu brechu
|
Mae ystadegau diweddara yn dangos bod llawer mwy o achosion o glwy'r pennau yng Nghymru.
Yn ystod 2005 roedd mwy na 3,000 o achosion yng Nghymru tra oedd 72 achos yn 2001.
Mae'r cynnydd sylweddol yng Nghymru a Phrydain wedi arwain at alwadau eto gan Lywodraeth y cynulliad i annog pobl i gael brechiadau triphlyg MMR.
Dywedodd swyddogion iechyd y gallai clwy'r pennau fod yn "salwch difrifol" ond mae modd ei atal drwy ddefnyddio'r brechiadau.
Mae meddyg teulu o Wrecsam, Dr Peter Saul, wedi dweud iddo sylwi ar achosion, yn enwedig dros y Nadolig.
"Y rhai sy'n diodde ydi pobl ifanc yn eu harddegau hwyr neu yn eu 20au cynnar."
Dau ddogn
Mae nifer o achosion wedi bod mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion ym Mhrydain.
"Cafodd y brechiad MMR ei gyflwyno yn y 1980au a dim ond un dogn yr oedd plant yn ei gael.
"Roedd nifer wedi eu gwarchod ond dangosodd gwaith ymchwil bod dau ddogn yn rhoi gwell imiwnedd.
"Ond fe lithrodd nifer o blant drwy'r system, sydd erbyn hyn yn oedolion ifanc ac mewn perygl o ddiodde o glwy'r pennau."
Ymhlith symptomau'r clwy mae enyniad yn y chwarennau, twymyn a theimlo'n sāl.
'Dramatig'
Dywedodd y dylai pobl ifanc fynd i gael brechiad mewn meddygfa.
A dywedodd Dr Richard Roberts, ymgynghorydd Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, fod y neges yn syml iawn.
"Mae cynnydd dramatig wedi bod yn nifer yr achosion o glwy'r pennau ar draws Prydain yn gyffredinol a dydi Cymru ddim yn eithriad.
"Mae clwy'r pennau yn salwch difrifol iawn all arwain at driniaeth ysbyty a chymhlethdodau.
"Ond mae modd ei osgoi drwy imiwneiddio gyda brechiad MMR, sy'n arbed 90% o'r rhai sy'n derbyn un dogn a 99% o'r rhai sy'n derbyn dau ddogn.
"Rydym yn argymell fod plant a phobl ifanc sydd ddim wedi cael brechiad MMR yn cysylltu ā meddyg teulu."