Pugh: Llywodraeth Cymru'n methu rhoi siec wag
|
Yn ei gyfweliad cyntaf ers cyhoeddi adroddiad i sefyllfa ariannol yr Eisteddfod mae Gweinidog Diwylliant Cymru wedi dweud na all y Brifwyl ddisgwyl derbyn siec wag gan y llywodraeth.
Wrth wneud ei sylwadau ar raglen Maniffesto BBC Cymru dywedodd Alun Pugh fod hi'n dal yn bwysig cefnogi'r Eisteddfod.
Dywedodd bod gan yr Eisteddfod rôl i'w chwarae i gyrraedd amcanion y llywodraeth o Gymru ddwyieithog.
Cafodd adroddiad ar sefyllfa ariannol y Brifwyl ei gyhoeddi ddydd Gwener oedd yn nodi bod yr Eisteddfod mewn dyled o £111,000.
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar ôl i'r Eisteddfod gyhoeddi ar ddiwedd wythnos lwyddiannus yng Nghasnewydd y llynedd bod y sefyllfa ariannol yn fregus iawn.
Dywedodd adroddiad cwmni ymgynghorwyr annibynnol Grant Thornton bod angen £188,000 ychwanegol bob blwyddyn ar yr Eisteddfod.
Ond yn ei gyfweliad cyntaf ar y mater dywedodd Mr Pugh ei fod wedi darllen yr adroddiad a'i fod yn edrych ymlaen at drafodaethau pellach.
Moderneiddio
"Dwi'n meddwl bod pawb angen deall nad oes modd rhoi siec wag i dalu dyledion yr Eisteddfod.
"Mae'r Eisteddfod wedi derbyn swm sylweddol o arian o wariant cyhoeddus eisoes.
"Y llynedd fe gawson nhw hanner miliwn o bunnoedd."
Ychwanegodd bod rhaid i'r Eisteddfod edrych tuag at foderneiddio er mwyn "parhau i fod yn apelgar yn yr 21ain ganrif i bob rhan o Gymru ac yn wir ymhellach."
Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol eu bod yn croesawu'r adroddiad a gafodd ei dderbyn gan Gyngor yr Eisteddfod yn eu cyfarfod ddydd Sadwrn.
Mae sefyllfa ariannol yr Eisteddfod wedi bod yn fregus ers sawl blwyddyn ac ar ddiwedd Eisteddfod Casnewydd y llynedd bu'n rhaid i swyddogion gyhoeddi apêl ariannol cenedlaethol.
Poeni y mae'r Eisteddfod am fod lefel y nawdd y mae'n ei dderbyn yn rhy isel.
Saith mlynedd yn ôl penderfynodd Bwrdd yr Iaith leihau'r grant yr oedd yr Eisteddfod yn ei dderbyn er bod adroddiad Grant Thornton ar y pryd ddim wedi argymell hynny.
Safle cadarn
Ers hynny, mae'r Eisteddfod wedi colli cannoedd ar filoedd o bunnoedd o gymorth ariannol ac mae hyn, yn ogystal â cholledion Eisteddfodau unigol, wedi arwain at y sefyllfa bresennol.
Does dim penderfyniad wedi cael ei wneud ynglŷn â lleoliad Eisteddfod 2007 oherwydd trafodaethau ariannol sy'n parhau.
Dywedodd Mr Pugh bod angen i'r Eisteddfod foderneiddio
|
Gan fod y trafodaethau'n parhau rhwng y Brifwyl a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynglŷn â'r posibilrwydd y gallen nhw rannu'r gost yn flynyddol.
Pe bai yna gytundeb, y gobaith ydi y gallai'r Eisteddfod fynd i Sir y Fflint ac nid i Lerpwl.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi dweud na all fforddio cynnal yr ŵyl a'r unig wahoddiad bellach sydd gan Gyngor Dinas Lerpwl.
Ddydd Gwener fe wnaeth y gymdeithas gyhoeddi eu bod yn dymuno sicrhau llwyddiant hir dymor i'r Eisteddfod.
Dywedodd Dafydd Whittall, Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod eu bod yn croesawu'r datganiad yn fawr ac edrych ymlaen sut i wireddu hyn yn ymarferol.
"Dwi'n mawr obeithio bod achubiaeth o hyn yn y tymor byr ac yn yr hir dymor hefyd ac os fedrwn ni ddod i ddealltwriaeth gyda'r gymdeithas fe fydd yn diogelu'r Eisteddfod ac yn ei rhoi ar safle cadarn iawn i'r dyfodol," meddai.
"Mae'r cytundeb hefyd yn rhoi cyfle cyfartal i bob rhan o Gymru allu croesawu'r Eisteddfod."
Fe fydd yr Eisteddfod a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cynnal cyfarfod gyda Mr Pugh dros yr wythnosau nesaf.