Fe fydd Eisteddfod 2007 yn cael ei chynnal yn Yr Wyddgrug
|
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi safle'r ŵyl yn 2007.
Bydd yn cael ei chynnal yn Yr Wyddgrug cyhoeddodd yr Eisteddfod mewn cyfarfod cyhoeddus nos Fawrth a bydd yn cael ei hadnabod fel Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau.
Cafodd dau safle eu hystyried ar gyfer yr Eisteddfod yn Sir y Fflint, un ar dir Tŷ Ucha, Caerwys ar llall ar Stad Pentre Hobin ar gyrion Yr Wyddgrug.
Dr Aled Lloyd Davies gafodd ei ddewis yn gadeirydd y pwyllgor gwaith.
Mae cryn drafodaeth wedi bod am leoliad yr ŵyl yn 2007 ers i Gyngor Sir y Fflint ddweud na allen nhw gyfrannu'r £300,000 oedd eu hangen.
Daeth gwahoddiad oddi wrth Gyngor Sir a Dinas Lerpwl i gynnal yr Eisteddfod ond fe arweiniodd y cais at brotest gan bobl nad oedd am i'r Brifwyl adael Cymru.
Bob blwyddyn
Oherwydd cyhoeddiad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Medi bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cyfrannu arian yn flynyddol at yr Eisteddfod. Roedd hyn yn golygu y gallai Sir y Fflint gynnal y Brifwyl wedi'r cwbl.
Bu'r brifwyl yn y dref ddiwethaf yn 1991 ac roedd cyfarfod cyhoeddus am 1900 yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, nos Fawrth i drafod y camau nesaf.
Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal yn Yr Wyddgrug nos Fawrth
|
Mae'r safle tua milltir o ganol y dref, ar Ffordd Wrecsam, ac mae digon o dir fflat yno er mwyn cynnal maes yr Eisteddfod, Maes B, y maes carafannau a'r maes parcio ac yn ddigon hwylus i gerdded i'r dref i ddefnyddio adnoddau'r dref.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, bod sawl ystyriaeth wedi ei wneud cyn penderfynu ar y safle terfynol.
"Fe fuo'n ni'n treulio tipyn o amser yn ystyried y ddau leoliad gan ymgynghori gyda'r heddlu a'r cyngor sir.
"Er ein bod yn chwilio am tua 140 acer a hwnnw'n weddol wastad, rhaid cofio bod angen parcio tua 7,000 o geir bob dydd a'u bod am adael yr un pryd ar ddiwedd y dydd!"
Dywedodd hefyd bod angen i offer angenrheidiol i baratoi'r safle gael ei gludo yno wythnosau cyn y brifwyl.
Ardal Treffynnon estynnodd wahoddiad yn wreiddiol i'r Eisteddfod Genedlaethol gyda'r bwriad o groesawu'r Brifwyl i'r sir yn 2005.
Rhestr testunau
Gan fod angen safle 140-erw i gynnal yr ŵyl, a'r rhan helaeth ohono'n dir gwastad, bu'n anodd dod o hyd i safle addas a phenderfynwyd ei chynnal ar Stad Y Faenol ger Bangor.
Fel arfer mae pwyllgorau lleol yn cael dros ddwy flynedd i drefnu'r eisteddfod ond cwta 18 mis sydd gan y trigolion lleol.
Y ddwy broblem fwya sydd gan yr ardal ydi i lunio'r rhestr testunau, a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Archdderwydd yn seremoni'r Cyhoeddi ar Orffennaf 1.
Mae disgwyl i'r pwyllgorau lleol a'r pwyllgorau canolog drafod a llunio'r rhestr mewn cyfarfod arbennig ddechrau mis Chwefror.
Bu'r Eisteddfod yn Yr Wyddgrug ddiwethaf yn 1991
|
O ran y gronfa ariannol leol, fel arfer mae angen codi £260,000 ac mae'n debyg bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda'r cyngor sir i roi hwb i'r gronfa a fydd yn lleihau'r baich.
Ond doedd Mr Roberts ddim credu y byddai hyn yn broblem yn yr ardal.
"Dwi ddim yn credu bod amser yn brin i gyflawni rhai o'r tasgau.
"Rydan ni wedi canfod safle erbyn hyn ac fe fydd y rhestr testunau yn cael ei baratoi dros y misoedd nesaf.
"Ond mae casglu arian efallai yn dipyn anoddach ond mi rydan ni wedi cynnal trafodaethau gyda'r cyngor sir a rydan ni'n gobeithio y bydd y cyngor o fewn rhyw chwe wythnos yn gallu dweud eu bod yn gallu cefnogi'r gronfa leol.
"Ac os ydyn nhw'n gwneud hynny, ac yn weddol hael, dwi'n ffyddiog y bydd popeth yn iawn."