BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 24 Mehefin 2005, 12:20 GMT 13:20 UK
Prifwyl: Dyled o £111,000
Safle eisteddfod Casnewydd 2004
Mae'r Eisteddfod yn edrych ymlaen at ŵyl lwyddiannus eleni

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn wynebu dyledion o £111,000.

Cyhoeddodd ymchwiliad annibynnol fod y Brifwyl angen £188,000 o nawdd ychwanegol yn flynyddol.

Cafodd casgliadau ymchwiliad cwmni Grant Thornton eu cyflwyno i aelodau Bwrdd yr Iaith Gymraeg ddydd Gwener.

Dywedodd yr Eisteddfod eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad.

Mae sefyllfa ariannol yr Eisteddfod wedi bod yn fregus ers sawl blwyddyn ac ar ddiwedd Eisteddfod Casnewydd y llynedd bu'n rhaid i swyddogion gyhoeddi apÍl ariannol cenedlaethol.

Poeni y mae'r Eisteddfod am fod lefel y nawdd y mae'n ei dderbyn yn rhy isel.

Saith mlynedd yn Űl penderfynodd Bwrdd yr Iaith leihau'r grant yr oedd yr Eisteddfod yn ei dderbyn er bod adroddiad Grant Thornton ar y pryd ddim wedi argymell hynny.

Grant bychan

Ers hynny, mae'r Eisteddfod wedi colli cannoedd ar filoedd o bunnoedd o gymorth ariannol ac mae hyn, yn ogystal ‚ cholledion Eisteddfodau unigol, wedi arwain at y sefyllfa bresennol.

"Mae'r Eisteddfod wedi dadlau ers sawl blwyddyn fod y grant blynyddol yr ydan ni'n ei dderbyn yn rhy fychan," meddai Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts.

Mae Eisteddfod Eryri yn argoeli i fod yr Eisteddfod fwya llwyddiannus erioed
Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod

Ar ddiwedd Eisteddfod Casnewydd roedd angen £300,000 ar yr Eisteddfod a rhoddodd Bwrdd yr Iaith a Llywodraeth y Cynulliad gyfanswm o £160,000.

Cafodd cwmni Grant Thornton ei gomisiynu gan y bwrdd i archwilio sefyllfa ariannol yr Eisteddfod.

Dywedodd y Brifwyl iddi gasglu mwy o nawdd preifat nag erioed ar gyfer Eisteddfod Eryri eleni, £400,000 o'u cymharu ‚ £300,000 yn 2004.

'Mwya llwyddiannus'

Mae'r Eisteddfod wedi bod yn cydweithio ‚ Chymdeithas Lywodraeth Leol Cymru ac eraill i geisio sicrhau ffynonellau arian tymor hir.

Ddydd Gwener mae'r Gymdeithas wedi bod yn trafod cynnig i roi help ariannol i'r Eisteddfod.

Mewn datganiad ar y cyd ar ran arweinyddion yr awdurdodau dywedodd Alex Aldridge, arweinydd Sir y Fflint ac arweinydd y Gymdeithas, a Meryl Gravell, arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin a Llywydd y Gymdeithas: "Yn ei gyfarfod heddiw, cadarnhaodd Pwyllgor Cydlynu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei fod yn unfarn ynglŷn ‚ diogelu'r Eisteddfod Genedlaethol dros y tymor hir.

"Yn dilyn y cyfarfod, fodd bynnag, hoffen ni gwrdd ‚ chynrychiolwyr Llywodraeth y Cynulliad a'r Eisteddfod Genedlaethol ar frys er mwyn bwrw golwg ar nifer o feysydd allweddol."

Croesawodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod benderfyniad y gymdeithas.

"Rwy'n falch bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dod i benderfyniad unfrydol ynglŷn ‚'r angen i ddiogelu'r Eisteddfod Genedlaethol yn y tymor hir," meddai Mr Roberts.

"Rydym nawr yn edrych ymlaen at drafod y manylion ac i weithio mewn partneriaeth gyda'r Gymdeithas a Llywodraeth y Cynulliad."

Wrth drafod Eisteddfod Eryri eleni dywedodd Mr Roberts ei bod "yn argoeli i fod yr un fwya llwyddiannus erioed."

"Bydd mwy o weithgareddau a stondinau ar y maes nag erioed," meddai Mr Roberts.

"Mae'r targed ar gyfer yr ymgyrch godi arian lleol wedi ei gyrraedd ac mae hyn oherwydd gwaith diflino'r Pwyllgor Gwaith lleol ac ymroddiad staff yr Eisteddfod.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y Cynulliad a Bwrdd yr Iaith Gymraeg i sicrhau nawdd hir dymor, cynaliadwy ar gyfer yr Eisteddfod fel y gallwn adeiladu ar ein llwyddiant dros y blynyddoedd diwetha a mynd o nerth i nerth."

Beth yw eich barn chi am sefylla'r Eisteddfod ? Beth yw'r ffordd ymlaen? Cysylltwch ‚ ni isod a bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi.

Dyma'r ymateb sydd wedi ein cyrraedd hyd yma:

Mae £111,000 yn lot ond rhwng y 3 miliwn yng Nghymru mae hynny'n 4c yr un, neu tua 20c i bob siaradwr Cymraeg. Dyw hynny'n ddim o'i gymharu ‚'r arian rydyn ni'n ei wario ar bethau fel cwrw, siocled neu fyddin Prydain. Fe wna i anfon degpunt i'r Steddfod a thalu cyfraniad 50 o siaradwr Cymraeg!
Huw B, Llundain

Wel, wedi mynd i'r eisteddfod yng Nghasnewydd y llynedd, dyw hi ddim yn syndod. Doedd na ddim digon i wneud ar y maes, mas o'r prif llwyfan a phabell y dysgwyr. Cwpl o ddanswyr, os gofia i. Beth am jyglwyr, ffair, mwy i'r plant, er engraifft. Mae na lot ar y prif llwyfan, a lot ar y Maes B i'r ieuenctid, ond dim digon i'r teulu. Hynny yw, ble ydy'r arian am ŵyl fel hyn, dwi'n meddwl.
A Lerpwl? Syniad da iawn - o leiaf byddai'r cyfryngau cenedlaethol yn sylwi am unwaith! Dwi ddim yn cofio weld un gair yn y wasg (mas o Gymru) y llynedd am yr Eisteddfod. Byddai lot o bobl yn dod jyst i weld beth yn union yw Eisteddfod!Jon Summers
Jon Summers, Coed Duon, Caerffili

Be wi ddim yn deall yw pam fod yr Eisteddfod yn cael ei chynnal dros fwy o ddyddiau pan fod angen arbed arian- dylai gael ei chynnal rhwng Sul a Sadwrn. Pwynt bach yw hwn, ond fe allai helpu.
Esyllt, Llundain

Os yw'r Eisteddfod mewn sefyllfa mor fregus byddai'n anghyfrifol iawn mynd ‚'r ŵyl i Lerpwl yn 2007. Onid hynny fyddai'r hoelen olaf yn arch yr Eisteddfod!
Siwan Thomas, Dinas,Caernarfon, Gwynedd




HEFYD:
Eisteddfod: Tri chyngor o blaid
27 Mai 05 |  Newyddion
Eisteddfod: ApÍl frys am £300,000
07 Awst 04 |  Newyddion
'Dim prifwyl i Lerpwl'
04 Ebr 05 |  Newyddion
Prifwyl: Newid trefn reoli
28 Tach 04 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^