Yr arwydd: Dryswch
|
Mae cwmni'n ymddiheuro am fod camgymeriad ar arwydd dwyieithog oedd yn drysu cerddwyr.
Gogleddwr sylwodd ar yr arwydd pan oedd yn siopa am anrhegion Nadolig yng nghanol Caerdydd.
Roedd y fersiwn Cymraeg yn dweud "Edrychwch i'r chwith" a'r fersiwn Saesneg yn dweud "Edrychwch i'r dde".
Tynnodd Lux Traffic Controls yr arwydd i lawr ac ymddiheuro am y "gamddealltwriaeth".
"Cafodd yr arwydd ei symud cyn gynted ag y rhoddodd rhywun wybod i ni a byddwn ni'n cywiro'r sefyllfa," meddai'r rheolwr Steve Williams.
"Anfonodd y mab lun ata i oherwydd doedd yr arwydd ddim yn gwneud synnwyr o gwbl," meddai Eirwen Rowlands o Caernarfon.
"Chwerthinais i am fod y llun mor ddigri."
Oes gennych chi unrhyw sylwadau neu luniau am arwyddion "dryslyd," cysylltwch â ni ar newyddionarlein@bbc.co.uk neu llenwch y ffurflen isod.
Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.
Efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi gan y BBC drwy'r byd.