Bu Rhiannon Evans yn 'gefn aruthrol' i Gwynfor
|
Mae gweddw Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans, Rhiannon Evans, wedi marw.
Bu farw Mrs Evans yn ei chartref ym Mhencarreg ger Llanbedr Pont Steffan ddydd Gwener.
Roedd hi'n 86 oed ac wedi bod yn diodde o glefyd Parkinson ers 20 mlynedd.
Yn y cartref Talar Wen dywedodd y teulu iddi weithio'n ddiflino i gefnogi ei gŵr pan oedd yn wleidydd. Bu farw Gwynfor Evans yn Ebrill 2005 yn 92 oed.
Dywedodd un o'r meibion, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, ei bod hi'n "fam ofalus a charedig oedd â synnwyr digrifwch gwych".
"Roedd hi'n aelod o Blaid Cymru cyn fy nhad ac roedd yn cael ei chydnabod yn ymgorfforiad o Gymreictod ganddo."
Cafodd Mrs Evans ei geni yn Lerpwl ac o Feirionnydd ac Ynys Môn yr oedd ei theulu'n hanu. Roedd hi'n ymgyrchydd brwd.
'Merthyr'
Roedd Meleri Mair, eu merch, wedi dweud ar raglen "Gwynfor: Yr Aelod Dros Gymru?" na allai ei thad fod wedi cyflawni'r hyn a wnaeth oni bai am gefnogaeth ei wraig.
"O'r un anian oedd y ddau ac roedd Mam yn genedlaetholwr cyn Dad. Chafodd hi ddim ei thynnu i mewn i'w fyd e. Roedd hi yna yn barod."
Roedd Rhiannon Evans yn genedlaetholwr cyn Gwynfor
|
"Byw i'w gilydd oedd y ddau a Mam wedi byw erioed i wneud yn siwr bod Dad yn gallu cyflawni'r gwaith y cyflawnodd," meddai'r Parchedig ap Gwynfor ar yr un rhaglen.
"Dyna oedd ei chyfrifoldeb cyntaf ac roedd Dad yn deall, yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi hynny."
Dywedodd mab arall Dafydd Evans ar y rhaglen fod ei fam yn "ferthyr ar allor" ei dad.
Mewn datganiad ddydd Gwener dywedodd Llywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan, bod Cymru wedi colli "un o'i merched ffyddlonaf".
"Roedd Rhiannon Evans yn graig o gymar i'r diweddar Gwynfor Evans, yn ogystal a bod yn wraig alluog a chadarn yn ei hawl ei hun, a thrist iawn yw clywed am ei marwolaeth, wedi dioddef cystudd hir, a hynny'n ddi-gwyn ac yn hynod o ddewr.
"Roedd y cariad amlwg rhwng Rhiannon a Gwynfor Evans a'u teulu cyfan yn ysbrydoliaeth i bawb a'u hadnabu, ac yr oedd y modd urddasol y dioddefodd Rhiannon ei anhwylder blin dros nifer o flynyddoedd yn destun edmygedd.
"Mae'n cydymdeimlad yn llwyr gyda'r teulu oll yn eu hiraeth."
Roedd gan y ddau saith o blant a nifer o wyrion, wyresau a gor-wyrion.