Ym marn y cadeirydd materion amgenach sydd wrth wraidd penderfyniadau
|
Mae cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn dweud nad oes ganddo unrhyw fwriad o fynd trwy'r "charade" o ailymgeisio am y swydd pan ddaw ei dymor i ben.
Dywedodd Geraint Talfan Davies mai effaith penderfyniad i beidio â chynnig ail dymor fel mater o drefn oedd i'w ddiswyddo.
Mae'r gweinidog diwylliant Alun Pugh wedi dweud ei fod eisiau cadeidydd fydd yn cynyddu hygyrchedd y celfyddydau yng Nghymru, yn arbennig mewn ardaloedd difreintiedig.
Ond dywedodd Mr Talfan Davies, cyn bennaeth BBC Cymru, fod materion eraill wrth wraidd penderfyniad y gweinidog.
Ychwanegodd na fydd yn ailymgeisio am y gadeiryddiaeth wedi diwedd ei gytundeb tair blynedd ym mis Mawrth.
Mae Alun Pugh eisiau sicrhau gwell fynediad i'r celfyddydau yn y dyfodol
|
"Does dim awydd arna i fynd drwy unrhyw fath o 'charade'," meddai.
"Rwy'n meddwl nad oes wnelo'r holl fater â swydd y cadeirydd a phwy sy'n ei chyflawni.
"Yr hyn sydd wirioneddol yn y fantol yn y fan hyn yw'r berthynas rhwng cyngor y celfyddydau a'r llywodaeth ac yn benodol y penderfyniad i drosgwlyddo cyfrifoldeb dros chwech o'r cwmnïau mwyaf - mae hynny'n gyfystyr â 43% o grantiau cynorthwyol y cyngor."
Mae ffrae wedi codi wedi i lywodraeth y cynulliad benderfynu i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros ariannu'n uniongyrchol chwech o brif gleientiaid y cyngor, sy'n cynnwys Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Cymru y BBC wedi adolygiad o ddyfodol y cwangos.
Rhannu pryderon Mr Talfan Davies fod y celfyddydau'n dod yn fwyfwy gwleidyddol y mae'r gwrthbleidiau yn y cynulliad.
Ond fe fynnodd Mr Pugh nad dyna'r achos.
'Ansefydlogi'
Dywedodd aelodau cynulliad yr wythnos hon mai'r unig ddadl yw'r un sy'n ymwneud â sicrhau mwy o fynediad i'r celfyddydau o fewn cymundau difreintiedig.
"Mae rhwystr o hyd i fynediad i'r celfyddydau mewn rhai o gymunedau Cymru," dywedodd Mr Pugh wrth aelodau yn y cynulliad.
"Mae angen diwygio ar gyfer y dyfodol i sicrhau ein bod yn parhau fel cenedl i fwynhau celfyddydau ardderchog gyda mynediad i bawb.
Ond mae cyn gadeirydd cyngor y celfyddydau, Sybil Crouch, yn dweud fod gwella hygyrchedd yn flaenoriaeth i holl aelodau'r cyngor.
"Yn amlwg mae'r gweinidog eisiau mwy na hynny ac rwy'n wirioneddol credu ei fod yn rhan o agenda ehangach o ansefydlogi cyngor y celfyddydau," meddai.