BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 3 Mehefin, 2005, 16:56 GMT 17:56 UK
Cau ysgolion: 'Barod i drafod'
Dosbarth
Bydd 40 o ysgolion yn cau ac 14 o ysgolion cylch newydd yn cael eu codi

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn barod i gyfarfod â phrifathrawon ac ymgyrchwyr i drafon y cynllun ad-adrefnu dadleuol.

Yng nghyfarfod pwyllgor craffu'r cyngor Gwener dywedodd y cyfarwyddwr addysg Vernon Morgan nad oedd y cyngor wedi cyfathrebu'n effeithiol bob amser.

Gallai 40 o ysgolion gau, y rhan fwyaf yn ysgolion bach cefn gwlad.

Mae'r cyngor am wario dros £100m ar godi 14 ysgol a gwella cyflwr y rhai sy'n weddill.

'Ymgynghori'

Ddydd Gwener roedd y pwyllgor craffu yn trafod yr amserlen ymgynghori.

Bydd Mr Morgan yn cyfarfod â prifathrawon a chynrychiolwyr Cymdeithas yr Iaith, sy'n ymgyrchu yn erbyn cau ysgolion bach cefn gwlad, o fewn wythnosau.

Dywedodd Anna Brychan, cyfarwyddwr Cymdeithas Prifathrawon Cymru:

"Bydd angen ymgynghori â'n haelodau ar lefel briodol ac ymgynghori â'r cymunedau perthnasol.

"Hefyd (mae angen) i'r awdurdod werthfawrogi fod yr ansefydlogi'n achosi ansicrwydd ac yn gallu peri niwed yn y tymor hir."

'Meddwl agored'

Dywedodd Ffred Fransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith, eu bod yn mynd i gyfarfod â Mr Morgan ar Fehefin 13 gyda meddwl agored.

"Dan ni'n mynd i gymryd Mr Morgan ar ei air, ond dan ni eisiau ymgynghori gonest.

"Yr amheuaeth yw fod gan y cyngor un syniad ac un syniad yn unig, sef cau ysgolion bach a chreu ysgolion canolog.

... does dim ffeithiau addysgiadol yn sail i'r ddadl
Ioan Hefin, Ysgrifennydd y Fforwm

"Dan ni eisiau gweld mwy nag ymgyrch PR gan y cyngor."

Hwn oedd y tro cyntaf i'r pwyllgor gyfarfod ers i'r cyngor gyhoeddi amserlen i gau 40 o ysgolion cynradd o fewn chwe blynedd.

Mae'r cyngor yn dweud fod angen ad-drefnu oherwydd cwymp yn y cyfraddau geni a chyflwr rhai adeiladau.

Ond mae gwrthwynebiad chwyrn a mudiadau a rhieni wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn cau ysgolion gwledig.

Yng Ngharmel ger Cross Hands nos Iau cyfarfu aelodau Fforwm Ysgolion Cynradd Sir Gâr i drafod y cam nesaf.

Mae aelodau'r fforwm yn cynnwys cynghorwyr sir, llywodraethwyr ysgol a rhieni.

Dywedodd Dominic Carmichael, Cadeirydd llywodraethwr Ysgol Brechfa, fod y cynlluniau yn "bygwth dyfodol yr ysgol".

'Angen chwarae teg'

Dywedodd Ioan Hefin, ysgrifennydd y fforwm, eu bod yn gwerthfawrogi fod y cyngor am fuddsoddi mewn addysg.

Allwn ni fyth aros fel y'n ni achos cafodd y rhan fwyaf o'r ysgolion eu hadeiladu dros ganrif yn ôl
Y Cynghorydd Hugh Richards, aelod o'r pwyllgor craffu

"Beth rydyn ni'n gwrthwynebu yw'r broses. Dydyn nhw ddim wedi ymgynghori, dydyn nhw ddim wedi gwneud unrhyw fath o waith ymchwil.

Dywedodd fod rhaid rhoi chwarae teg i'r ymchwil, yr effeithiau a'r ymgynghori cyn y broses nid ar y diwedd.

Ond dywedodd y Cynghorydd Hugh Richards, aelod o'r pwyllgor craffu, fod "rhaid edrych ar y darlun llawn".

"Mae tua 5,000 yn fwy o seddi yn y sir nac o blant ac mae rhaid ailedrych ar hynny," meddai.

"Mae arbed arian yn un rhan o'r holl beth (y cynllun i ad-drefnu) ac mae ymgynghori'n mynd i ddigwydd drwy'r sir. Bydd pob ardal yn edrych ar y sefyllfa'n wahanol.

"Allwn ni fyth aros fel y'n ni achos cafodd y rhan fwyaf o'r ysgolion eu hadeiladu dros ganrif yn ôl."




HEFYD:
Cau ysgolion: Cyhoeddi amserlen
31 Mai 05 |  Newyddion
Addysg: Mudiad yn protestio
31 Mai 05 |  Newyddion
Cau ysgolion: Mudiadau'n uno
17 Mai 05 |  Newyddion
'Hyd at 200 o ysgolion i gau'
05 Ebr 05 |  Newyddion
Cyfarfod i uno ymgyrch ysgolion
11 Chwef 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^