BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 2 Mehefin, 2005, 13:34 GMT 14:34 UK
Cadair i Aneurin
Aneurin Karadog
Aneurin Karadog: Enillydd y Gadair

Aneurin Karadog o Bontypridd sydd wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd.

Roedd y gystadleuaeth yn gofyn am gerdd gaeth neu rydd, heb fod dros 100 llinell ar y testun Darluniau.

Dywedodd y beirniaid Ceri Wyn Jones a Karen Owen ei fod yn "ddelweddwr ac yn fardd cyfoes gyda'i afael ar y gynghanedd yn sicr".

Yn ei gerdd mae'n cyfeirio at greithiau'r diwydiant glo yn ogystal â'r darlun gobeithiol fod yr iaith Gymraeg ar gynnydd mewn ysgolion.

Cafodd ei ddiddordeb mewn barddoni ei gynnau, meddai, pan enillodd gadair eisteddfod yr ysgol.

Mae Twm (Morys) a phrifeirdd eraill ... yn ysbrydoliaeth i feirdd ifainc fel fi
Aneurin Karadog

Mynychodd wersi Nyddu'r Cynganeddion gyda Rhys Dafis yng Ngwaelod-y-garth a dywedodd Aneurin fod ei ddyled yn fawr iddo am gyfrannu at ei ddatblygiad fel cynganeddwr, fel bardd.

Dywedodd ei fod yn ddiolchgar i adran Gymraeg Ysgol Gyfun Rhydfelen am gynnal ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth.

Prentisiaeth

Ar ôl ennill ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn yr Eisteddfod Genedlaethol mae Aneurin yn dilyn prentisiaeth farddol gyda'r Prifardd Twm Morys tan fis Tachwedd.

"Mae Twm a phrifeirdd eraill megis Tudur Dylan, Mererid Hopwood, Ceri Wyn, Myrddin ap Dafydd, Mei Mac, Iwan Llwyd yn ysbrydoliaeth i feirdd ifainc fel fi," meddai.

Cafodd ei eni yn Llanelwy yn fab i Gymro a Llydawes a threuliodd ei flwyddyn gyntaf yn Llanrwst cyn i'r teulu symud i lawr i'r de, i Bontardawe.

Rhydychen

Symudodd y teulu i Bontypridd yn 1990 lle bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Pont Siôn Norton ac Ysgol Gyfun Rhydfelen.

Graddiodd yn Ffrangeg a Sbaeneg yng Ngholeg Newydd, Rhydychen.

Bu'n gweithio ym Menter Iaith Rhondda Cynon Taf ar ôl graddio ac mae'n ymchwilydd Wedi Saith gyda Chwmni Teledu Tinopolis yn Llanelli.

Roedd Eurig Salisbury o Aelwyd Ger y Lli, Aberystwyth, yn ail ac Osian Rhys Jones o Aelwyd Pantycelyn a Catrin Dafydd o Gaerfyrddin yn rhannu'r drydedd wobr.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^