BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 2 Mehefin, 2005, 10:15 GMT 11:15 UK
Perfformio sioe 'heriol'
Sgript y sioe
Cafodd y sioe ei haddasu'n arbennig ar gyfer yr Eisteddfod

Am yr ail noson yn olynol roedd Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd yn orlawn nos Fercher ar gyfer cynhyrchiad Les Misérables gan Cwmni Theatr Genedlaethol yr Urdd.

Mae Eisteddfod yr Urdd wedi torri tir newydd eleni gan mai dyma'r tro cyntaf i'r sioe gerdd gael ei pherfformio yn y Gymraeg.

Roedd tua 100 o ddisgyblion ysgolion Uwchradd o draws Cymru wedi eu dewis i berfformio'r ffefryn o'r West End.

Cafodd sioe enwog Alain Boublil a Claude-Michel Schonberg ei haddasu yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod ac ysgrifennwyd y geiriau Cymraeg gan Tudur Dylan Jones.

Carys Edwards a Peter Davies oedd y Cyfarwyddwyr a Rhys Evans oedd y Cyfarwyddwr Cerdd.

Roedd yn ofynnol i bob aelod o'r cast gael dau glyweliad cyn cael eu dewis i berfformio yn y sioe.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^