BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 11 Ionawr 2006, 07:19 GMT
Gobaith am achub swyddi 'yn pylu'
Y tu mewn i ffatri Floform (lluniau llyfrgell)
Dechreuodd Floform fasnachu bron i 50 mlynedd yn l

Mae'r gobaith o achub 60 o swyddi mewn ffatri cynhyrchu cydrannau ceir ym Mhowys erbyn diwedd mis Ionawr yn pylu.

Cyhoeddodd Floform yn Y Trallwng fis Rhagfyr ei fod yn ystyried gwneud y toriadau wedi iddo golli archeb fawr o America.

Mae swyddogion undeb Amicus mewn trafodaethau gyda'r rheolwyr ond dydyn nhw ddim yn obeithiol y bydd y swyddi'n cael eu harbed.

Mae Floform wedi bod yn masnachu ers 1959, mae'n cyflogi 150 o staff ac mae ganddo gwsmeriaid yng Ngogledd America ac Ewrop.

Dywedodd John Hamilton, swyddog rhanbarthol gydag undeb Amicus: "Yn anffodus mae'n ymddangos yn hynod o debygol y bydd y nifer o ddiswyddiadau, a fydd yn digwydd ymhlith ein haelodau, yn wahanol i'r nifer a roddwyd i ni cyn y Nadolig."

'Ailstrwythuro'

Mae Floform wedi ei orfodi i dorri dros draean o'i weithlu wedi i'w gwsmer mwyaf, y Delphi Corporation - rhan o grŵp General Motors - fynd yn fethdal ym mis Hydref y llynedd.

Dywedodd rheolwyr fod y diswyddiadau yn rhan o broses "ailstrwythuro mawr" o fewn y busnes.

"Blaenoriaeth gyntaf yr undeb yw ymdrin buddiannau ein haelodau sy'n wynebu dyfodol ansicr iawn heb waith," meddai Mr Hamilton.

"Ein hail flaenoriaeth yw gweithio gyda'r cwmni i geisio sicrhau sicrwydd swyddi tymor hir i weddill y gweithlu.

"Mae'n mynd i fod yn flwyddyn heriol ac rydyn ni am ganolbwyntio ar sut y bydd y cwmni yn symud ymlaen yn ystod y 12 mis nesaf," meddai.




HEFYD:
Ergyd arall i'r canolbarth
19 Rhag 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^