BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 1 Mehefin, 2005, 14:29 GMT 15:29 UK
Medal Ddrama i Bethan
Bethan Williams
Bethan Williams: Enillydd y Fedal Ddrama

Bethan Williams o Aelwyd Bethel ger Caernarfon sydd wedi ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd.

Enw'r ddrama oedd Ty'd allan y Pwff!

"Roedd hon yn ddrama bwerus yn ymdrin yn uniongyrchol a chignoeth thema hoywder," meddai'r beirniaid Mari Rhian Owen a Lowri Hughes.

Roedd Catrin Dafydd, enillydd y Fedal Lenyddiaeth, yn ail ac yn gydradd drydydd gyda Ceri Elen Morris o Aelwyd CF1, Caerdydd.

Cafodd Bethan ei haddysg yn Ysgol Gynradd Bethel ac Ysgol Brynrefail.

Ysgrifennodd ei sgript gyntaf yn Safon 2 pan osododd Miss Evans y dasg o ysgrifennu sgript am ddau wenyn yn styc mewn pot jam.

"Roedd y sgript yn warthus ond o leia' roedd o'n gychwyn," meddai Bethan.

'Gwthio ffiniau'

Cyn cael hyfforddiant actio yng Ngholeg Webber Douglas yn Llundain aeth i Nepal i ddysgu am bedwar mis ac yna teithiodd drwy India a Thailand.

Ers iddi raddio, dros flwyddyn yn l, mae wedi bod yn gweithio i Sianco, Ffilmiau'r Nant, Y Frn Wen a Tonfedd Eryri.

Dywedodd fod dramodwyr sy'n gwthio ffiniau, yn troedio tir newydd, wedi dylanwadu arni - Sarah Kane, Mark Ravenhill, Gary Owen, Willy Russell, Aled Jones Williams a Harold Pinter.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^