Geraint Talfan Davies: Cadeirydd presennol Cyngor y Celfyddydau
|
Mae cyn-gadeirydd Cyngor y Celfyddydau yn dweud nad oes digon o drafod wedi bod am y newidiadau i'r cyngor yn y dyfodol.
Dywedodd Sybil Crouch, cyfarwyddwraig Canolfan Celfyddydau Taliesin yn Abertawe, nad oedd "unrhyw fath o ddeialog" wedi bod er bod prif swyddogaethau'r cyngor yn cael eu trosglwyddo i'r cynulliad.
Mae Gweinidog Diwylliant y cynulliad, Alun Pugh wedi dweud fod "angen diwygio ar gyfer y dyfodol" a sicrhau fod y celfyddydau'n agored i bawb.
Cyhoeddodd Prif Weinidog y Cynulliad Rhodri Morgan yn Nhachwedd 2004 y byddai'r cyngor yn colli cyfrifoldebau oherwydd cynlluniau i ddileu cwangos.
"Hyd yn hyn dy'n ni ddim yn gwybod sut y bydd y newidiadau'n gweithio," meddai Ms Crouch.
"Does neb yn erbyn aildrefnu ond mae angen cael deialog agored mewn democratiaeth i weld beth maen nhw'n (Llywodraeth y Cynulliad) yn ceisio ei gyflawni gyda'r newidiadau.
Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad fod cyfres o gyfarfodydd wedi cael eu cynnal gyda Chyngor y Celfyddydau ers Tachwedd 2004.
"Fe gafodd Cyngor y Celfyddydau wahoddiad i yrru cyflwyniad ffurfiol cyn cyhoeddiad y Prif Weinidog," meddai llefarydd ar ran llywodraeth y cynulliad.
"Fe wnaethon nhw hynny ac mae cyfres o gyfarfodydd wedi bod ers hynny ar lefel gweinidogol a swyddogol.
"Mae trafodaethau'n parhau ar gyfuno polisi a galluoedd Cyngor y Celfyddydau â staff llywodraeth y cynulliad yn ddiweddarach y flwyddyn hon. Mi fydd dadl lawn ar bolisi'r celfyddydau yng Nghymry ar Chwefror 1."
Ychwanegodd Ms Crouch, oedd yn gadeirydd y cyngor am bedair blynedd, fod y newidiadau'n creu "ansicrwydd" ymhlith staff Cyngor y Celfyddydau.
Ardaloedd tlawd
"Bydd rhai o'r swyddi'n cael eu trosglwyddo ond hefyd mae ansicrwydd ymysg cleiantiaid y cyngor."
"Heb weld y cynlluniau mae'n anodd gweld sut fath o gyngor fydd gyda ni yn y dyfodol."
Ddydd Mawrth dywedodd Mr Pugh y byddai pedair swydd ar fwrdd Cyngor Celfyddydau Cymru yn ogystal â swydd y cadeirydd yn cael eu hysbysebu.
Dywedodd ei fod am weld amrywiaeth o bobl ar y cyngor fel y gallai ardaloedd tlotach Cymru elwa'n fwy.
Daeth i'r amlwg yr wythnos ddiwethaf fod Cyngor y Celfyddydau wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y Cynulliad yn mynegi pryder am y posibilrwydd o beidio ag ailbenodi Geraint Talfan Davies fel cadeirydd.
Dywedodd Cyngor y Celfyddydau ei fod yn poeni am gynlluniau i ariannu chwech o brif gyrff celfyddydol Cymru yn uniongyrchol gan Lywodraeth y Cynulliad.
Mae Cyngor y Celfyddydau yn credu y gallai newid yr arweinyddiaeth fod yn niweidiol ar adeg cyfnod sensitif.
'Rhybudd'
Yn ei ddatganiad yn siambr y cynulliad brynhawn Mawrth dywedodd Mr Pugh ei fod yn bwriadu hysbysebu swydd cadeirydd y cyngor yn ogystal â phenodi pedwar aelod yn lle aelodau sy'n ymddeol.
Pwysleisiodd nad oedd "neb wedi ei ddiswyddo" a'i fod "yn agored i'r cadeirydd presennol benderfynu a yw'n dymuno gwneud cais am ei ailbenodi ai peidio".
Dywedodd fod y cadeirydd presennol wedi cael "rhybudd o fy mwriad i hysbysebu'r swydd pan fydd y tymor yn dod i ben ar Fawrth 31 2006".
Dywedodd Alun Pugh nad oes "neb wedi ei ddiswyddo"
|
A dywedodd ei fod yn "dilyn Côd Ymarfer y Cynulliad Cenedlaethol yn ymwneud â gweinidogion yn penodi i gyrff cyhoeddus yn ei gyfanrwydd."
Roedd Cyngor y Celfyddydau wedi derbyn buddsoddiad cynyddol gan Lywodraeth y Cynulliad gyda'r gyllideb yn £27m eleni o'i chymharu â £15m yn 1999/2000 - cynnydd o 56%.
"Ond er gwaetha'r cynnydd diweddar mewn buddsoddiad mae rhwystrau gwirioneddol o hyd i fynediad i'r celfyddydau mewn rhai cymunedau yng Nghymru," meddai.
"Mae angen diwygio ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau fel cenedl i ddatblygu'r celfyddydau gwych gyda mynediad i bawb."
Wrth gyfeirio at arolwg ar y celfyddydau a wnaed yn ddiweddar, dywedodd fod rheolwyr a phobl broffesiynol deirgwaith yn fwy tebygol o elwa o arian cyhoeddus sy'n cael ei fuddsoddi yn y celfyddydau na phobl sy'n byw mewn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf.
"Dydw i ddim yn credu fod y gwahaniaethau mawr hyn yn dderbyniol," meddai.
Wrth drafod annibyniaeth a'r egwyddor o sicrhau fod y corff hyd braich o'r llywodraeth, dywedodd "... nad yw gwleidyddion yn dylanwadu ar farn gelfyddydol."
Fe fydd aelodau'r cynulliad yn trafod y celfyddydau ar Chwefror 1 mewn sesiwn awr o hyd.