Fe fu Aelodau Seneddol yn trafod y mesur am y tro cyntaf ddydd Llun
|
Yn y Senedd mae Aelodau Seneddol wedi bod yn trafod mesur a allai gynyddu pwerau'r cynulliad yn y dyfodol.
Byddai Mesur Llywodraeth Cymru yn rhoi'r hawl i Aelodau'r Cynulliad i lunio mwy o ddeddfau mewn meysydd fel iechyd ac addysg.
Pe bai'n cael ei basio fe fyddai hefyd yn newid y ffordd y mae Aelodau'r Cynulliad yn cael eu hethol a byddai hefyd yn paratoi'r ffordd i roi pwerau deddfu llawn i'r cynulliad ar ôl refferendwm.
Ond mae rhai o Aelodau Seneddol y gwrthbleidiau wedi mynegi gwrthwynebiad cryf i gynlluniau Llafur.
Byddai'r mesur yn trawsnewid gallu'r cynulliad i basio deddfau newydd a byddai'n arwain at newidiadau mawr yn y system etholiadol.
Ymysg y rhain byddai diddymu hawl ymgeiswyr yn etholiadau'r cynulliad i sefyll mewn etholaethau ac ar y rhestrau rhanbarthol.
Hefyd byddai'n paratoi'r ffordd i roi pwerau deddfu llawn i'r cynulliad, ond dim ond ar ôl refferendwm.
'Torri tir newydd'
Yn ystod ail ddarlleniad y mesur ddydd Llun dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, fod rhaid i ddatganoli "ddatblygu ymhellach".
"Mae hon yn ddeddfwriaeth sy'n torri tir newydd a gallai arwain at bwerau deddfu llawn i Gymru rhywbryd yn y dyfodol," meddai.
"Mae'r mesur yn darparu cytundeb parhaol a fyddai yn fy marn i yn datrys y ddadl gyfansoddiadol yng Nghymru am genhedlaeth neu fwy.
"Hefyd mae'r mesur yn sicrhau, am y tro cyntaf erioed, fod pwerau cynradd i Gymru ar y llyfr statud yn ddibynnol ar refferendwm."
Dywedodd Llefarydd yr Wrthblaid ar Gymru, Cheryl Gillan, fod y Ceidwadwyr yn ystyried datganoli a'r cynulliad fel "nodweddion sydd wedi eu sefydlu" ond galwodd am refferendwm ar unrhyw gynnydd pellach mewn pwerau.
"Os ydych chi'n hyderus fod y cam hwn yn iawn i bobl Cymru yna fe ddylech chi adael iddyn nhw gael eu dweud," meddai wrth Mr Hain.
Mae'r mesur yn cynnig newidiadau i system etholiadol y cynulliad a mynnodd Mr Hain ei bod yn annheg fod rhai ACau yn cael eu hethol drwy'r rhestrau rhanbarthol er iddyn nhw golli yn yr etholaethau.
Byddai'r mesur yn gorfodi ymgeiswyr i ddewis un opsiwn.
Ond mae ASau Ceidwadol wedi dweud fod y newidiadau arfaethedig wedi eu cynllunio i greu system a fyddai'n fanteisiol i Lafur.
'Cyfyngedig'
Dywedodd Ms Gillan fod y mesur yn "newid amlwg i'r system etholiadol er budd i Blaid Lafur Cymru."
"Mae'r mesur....yn cynnig system o ehangu pwerau deddfwriaethol sy'n gwanhau'r Senedd a rôl yr ASau Cymreig tra'n newid cytundeb datganoli 1999 heb roi pleidlais na llais i bobl Cymru," meddai.
Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Gymru, Lembit Öpik, fod y mesur yn "gyfyngedig".
Nid yw'n dod yn agos, meddai, at ddarparu'r pwerau y mae nifer o bobl Cymru yn eu dymuno.
Ond dywedodd y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi'r mesur ar y ddealltwriaeth fod y llywodraeth yn gwrando ar gwynion am yr elfennau anfoddhaol.
Dywedodd Elfyn Llwyd, arweinydd seneddol Plaid Cymru, fod y mesur "yn gyfle sy'n cael ei golli" oherwydd "dadlau mewnol o fewn Llafur Newydd".
Pe bai'r mesur yn cael ei basio mae Mr Hain wedi dweud y bydd yn annhebygol y byddai refferendwm ar bwerau cynradd llawn cyn 2010.