BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 31 Mai, 2005, 09:08 GMT 10:08 UK
Addysg: Mudiad yn protestio
Jane Davidson
Ysgrifennodd Jane Davidson at Gymdeithas yr Iaith
Mae mudiad iaith wedi cynnal protest ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Llun am ddyfodol ysgolion gwledig.

Roedd aelodau o Gymdeithas yr Iaith am gwrdd â'r gweinidog addysg, Jane Davidson yn uned Llywodraeth y Cynulliad ym Mae Caerdydd.

Ond ysgrifennodd Ms Davidson at y mudiad yn dweud na fyddai'n eu cyfarfod ar y maes i drafod dyfodol ysgolion cefn gwlad.

Dywedodd Jane Davidson na chafodd wahoddiad i drafod gydag aelodau o Gymdeithas yr Iaith a'i bod yn "amhriodol" i'r mudiad awgrymu fod cyfarfod wedi'i drefnu.

Ychwanegodd mewn llythyr at y mudiad nad oedd yn gallu cyfarfod y rhai oedd yn cynnig unrhyw gynigion statudol posibl na'r rhai sy'n protestio yn eu herbyn.

Dywedodd y gallai hynny ddylanwadu ar benderfyniadau y gallai orfod eu gwneud fel gweinidog.

Cynlluniau

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith fod hyn yn "esgus".

Ond yn y llythyr dywedodd Ms Davidson nad oedd yn "barod i gymeradwyo cau ysgol cyfrwng Cymraeg oni bai bod y ddarpariaeth a gâi ei chynnig yn ei lle hefyd yn cynnig addysg cyfrwng Cymraeg - ac a fyddai hefyd yn gyfatebol o ran ansawdd.

Ffred Ffransis
Ffred Ffransis yw llefarydd addysg y mudiad

" Lle bo galw o blith rhieni am fwy o addysg cyfrwng Cymraeg disgwyliaf i awdurdodau addysg lleol (AALlau) gyflwyno cynigion," ychwanegodd.

Ond honnodd Cymdeithas yr Iaith fod Ms Davidson yn cyfarfod yn gyson gyda rhai swyddogion addysg Awdurdodau Lleol sy'n ceisio cau ysgolion pentrefol.

Ddechrau'r flwyddyn cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych gynlluniau i ad-drefnu ysgolion cynradd.

Bwriad Cyngor Sir Caerfyrddin yw cau tua 30 o ysgolion ac agor 19 ysgol ardal newydd.

Fis Mai honnodd Cymdeithas yr Iaith y byddai'n rhaid i ysgolion Cymraeg uno â'r ysgolion Saesneg o fewn y sir.

Ond dywedodd y cyngor fod eu cynllun £110m dros gyfnod o 10 mlynedd yn golygu moderneiddio adeiladau ansafonol.

"Mae Jane Davidson wedi dweud na fydd yn bresennol ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Llun i gyfarfod ag ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol sy'n dod at uned Llywodraeth y Cynulliad," meddai Ffred Ffransis o'r gymdeithas.

Dywedodd y mudiad y byddai ymgyrchwyr yn dal i fynd i'r uned am 1530 ddydd Llun i siarad gyda swyddogion.




HEFYD:
Cau ysgolion: Mudiadau'n uno
17 Mai 05 |  Newyddion
'Cau neu uno 14 ysgol'
15 Chwef 05 |  Newyddion
Ysgolion 'dan fygythiad'
10 Ebr 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^