Geraint Talfan Davies: Cadeirydd presennol Cyngor y Celfyddydau
|
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y Cynulliad yn mynegi pryder am y posibilrwydd o beidio ag ailbenodi Geraint Talfan Davies fel cadeirydd.
Rhaid i Weinidog Diwylliant y Cynulliad, Alun Pugh, asesu'r gadeiryddiaeth ar ôl cyfnod o dair blynedd.
Mae Cyngor y Celfyddydau wedi dweud ei fod yn poeni am gynlluniau i ariannu chwech o brif gyrff celfyddydol Cymru yn uniongyrchol gan Lywodraeth y Cynulliad.
Wrth ymateb i'r pryderon am gadeiryddiaeth y cyngor, dywedodd Mr Pugh nad oedd "neb wedi ei ddiswyddo" ac y byddai "swydd y cadeirydd yn cael ei hysbysebu yn y gwanwyn".
Mewn cyfarfod ychydig cyn y Nadolig clywodd Mr Davies y byddai cadeiryddiaeth Cyngor y Celfyddydau yn cael ei hysbysebu.
Arolwg
Y bwriad, mae'n debyg, yw chwilio am rywun fyddai'n gallu helpu codi nifer ymhlith grwpiau difreintiedig sy'n cymryd rhan yn y celfyddydau.
Deellir fod Mr Pugh wedi ei syfrdanu gan ganlyniadau arolwg diweddar gan Gyngor y Celfyddydau am agweddau'r cyhoedd at y celfyddydau.
Roedd yr arolwg, a holodd 7,000 o bobl, yn dangos na allai nifer o bobl fforddio fwynhau gweithgareddau celfyddydol ac awgrymodd fod angen gwneud mwy yn y maes hwn.
Mae Cyngor y Celfyddydau yn credu y gallai newid yr arweinyddiaeth fod yn niweidiol mewn cyfnod sensitif.
Cyhoeddodd Prif Weinidog y Cynulliad Rhodri Morgan yn Nhachwedd 2004 y byddai Cyngor y Celfyddydau yn colli cyfrifoldebau oherwydd cynlluniau i ddileu cwangos.
'Diolchgar'
Dywedodd Janet Roberts, aelod o Gyngor y Celfyddydau, fod yr aelodau yn datgan eu cefnogaeth i Mr Davies.
"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am ei arweiniad cadarn i'r cyngor," meddai.
"Mae'n gyfnod o newid mawr i'r cyngor ac rydyn ni'n gofyn y cwestiwn ai dyma'r amser i newid cadeiryddiaeth o ran tegwch i'r staff a'r cleientiaid.
"Ar gyfnod o newid yr hyn mae rhywun eisiau yw parhâd a chysondeb a bydd hynny'n anodd, dwi'n meddwl, i gadeirydd newydd."