Aildrefnu: Y cyngor am wario £110m
|
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn awgrymu pa ysgolion ddylai gau yn gynta wrth iddyn nhw wario dros £110m ar foderneiddio'r ddarpariaeth addysg.
Dros y chwe blynedd nesa bydd 40 o ysgolion yn cau a bydd 14 o ysgolion cylch newydd yn cael eu codi.
Ond mae ymgyrchwyr wedi cyhuddo'r cyngor o wneud penderfyniadau "gwleidyddol".
Mae 12 disgybl yn Ysgol Llansadwrn yn Nyffryn Tywi a bydd hon yn un o'r ysgolion cyntaf i gau o dan y cynllun.
Bydd y plant yn cael eu symud i ysgol gyfagos yn Llanwrda.
Hefyd bydd ysgol newydd yn dod yn lle ysgolion Cefnbrynbrain ac Ystradowen ac mae cyfnod o ymgynghori am ddyfodol ysgolion Trap a Chwmgwili.
Ymgyrchu
"Byddwn yn mynd allan i bob ardal i ymgynghori'n llawn," dywedodd Vanessa Walters o Gyngor Sir Gaerfyrddin.
Ychwanegodd na fyddai'r ysgolion yn cau o fewn y "ddwy flynedd academaidd" nesa.
Dywedodd y cyngor bod angen yr ad-drefnu oherwydd cwymp yn y cyfraddau geni a chyflwr rhai adeiladau.
Roedd y ddogfen gerbron bwrdd gweithredol y cyngor ddydd Mawrth
a bydd yn mynd gerbron prifathrawon ym Mehefin.
Mae'r mudiadau a rhieni sydd wedi bod yn ymgyrchu'n erbyn cau ysgolion gwledig, eisoes wedi beirniadu'r cynllun.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo'r cyngor o gynnig yr opsiwn o gau ysgolion ac agor ysgolion ardal yn eu lle.
Ffred Ffransis: Cau ysgolion yn 'drychinebus i'r plant a'r cymunedau'
|
"Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi eu rhestr o 40 o ysgolion ond dydyn nhw erioed wedi trafod led-led y sir," meddai Ffred Ffransis llefarydd addysg y mudiad.
Roedd angen moderneiddio, meddai.
"Y gwahaniaeth yw roedden ni eisiau gwneud hynny'n gadarnhaol drwy gynorthwyo ysgolion i gydweithio gyda'i gilydd, agor eu hadnoddau i'r gymuned leol a'u datblygu'n gadarnhaol.
"Maen nhw eisiau moderneiddio drwy fod yn negyddol, drwy gael gwared ar y problemau a chau ysgolion - sy'n llawer haws i'r gweinyddwyr ond yn drychinebus i'n plant a'n cymunedau."