BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 27 Mai, 2005, 08:02 GMT 09:02 UK
Eisteddfod: Tri chyngor o blaid
Maes eisteddfod Casnewydd 2004
Bu'n rhaid i'r Eisteddfod wneud apl am arian ar ddiwedd wythnos yr Eisteddfod yng Nghasnewydd

Dim ond tri o awdurdodau lleol Cymru sydd wedi penderfynu cefnogi cynllun i roi 20,000 y flwyddyn i'r Eisteddfod Genedlaethol, yn l ymchwil gan raglen Manylu BBC Radio Cymru.

Mae'r rhaglen yn datgelu fod rhai cynghorau wedi gwrthod yn llwyr i dderbyn un o argymhellion arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mewn llythyr at bob un o'r 22 cyngor fe wnaeth Alex Aldridge argymell y dylai pob un o'r 22 cyngor gyfrannu 20,000 y flwyddyn tuag at gostau cynnal y Brifwyl i geisio datrys yr argyfwng ariannol.

Doedd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, ddim yn fodlon ymateb i waith ymchwil y rhaglen gan ddadlau nad yw'n disgwyl ymateb ffurfiol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am fis arall.

Cefnogaeth

Fe anfonodd Mr Aldridge, arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y llythyr i'r cynghorau ar Ebrill 1 a'r bwriad yw fod pob cyngor sir yn cyfrannu tua 20,000 y flwyddyn fel na fydd rhaid i awdurdod lleol gyfrannu 300,000 i gynnal y brifwyl yn eu hardal.

Y cynghorau sydd wedi cefnogi'r cynllun
Gwynedd
Powys
Sir y Fflint

Hyd yn hyn dim ond cynghorau Gwynedd, Powys a Sir y Fflint sydd wedi cefnogi'r cynllun.

Mae pedwar awdurdod arall wedi cefnogi'r cynllun mewn egwyddor, ond yn awyddus i ychwanegu amodau arbennig.

Ond mae pedwar cyngor - Wrecsam, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Blaenau Gwent - wedi dweud na fydden nhw yn barod i gefnogi'r cynnig.

Dywedodd arweinydd Cyngor Wrecsam, Aled Roberts, fod cabinet yr awdurdod wedi pleidleisio yn erbyn y syniad.

Y cynghorau nad ydyn nhw'n barod i gefnogi'r cynllun
Wrecsam
Castell-nedd Port Talbot
Torfaen
Blaenau Gwent

"Mi fyddai'n anodd iawn i ni gyfiawnhau hynny (rhoi 20,000 y flwyddyn) i'n trigolion pan fo gwasanaethau eraill yn cael eu cwtogi," meddai Mr Roberts.

Nid oes dealltwriaeth o argyfwng yr eisteddfod yn Wrecsam, meddai, gan fod y mwyafrif o'r trethdalwyr yn ddi-Gymraeg.

'Croesawu'

Dywedodd wyth awdurdod arall wrth y rhaglen nad ydyn nhw wedi trafod y llythyr eto ac nad oedd cynllun i wneud hynny yn y dyfodol agos.

Nid oedd tri chyngor yn gallu cadarnhau eu bod eisoes wedi derbyn llythyr Mr Aldridge.

Mi fyddai'n anodd iawn i ni gyfiawnhau hynny...pan fo gwasanaethau eraill yn cael eu cwtogi
Aled Roberts, Arweinydd Cyngor Wrecsam

"Roedden ni'n hapus iawn efo'r syniad ac yn croesawu'r egwyddor," meddai'r Cynghorydd Gwilym Fychan, ar ran Sir Powys sydd wedi cefnogi'r cynllun.

"Mi fyddai'n rhoi sicrwydd i'r Steddfod ac yn gwneud synnwyr cyllidol i'r cyngor drwy drefnu o flaen llaw," meddai.

Ymhlith y cynghorau sydd wedi cefnogi'r cynllun mewn egwyddor mae Ceredigion.

Mae'r arweinydd, y cynghorydd Dai Lloyd Evans, yn dadlau mai'r cynulliad ddylai dalu am sefydliadau cenedlaethol fel yr Eisteddfod.

Ond pe bai'r cynllun yn cael ei weithredu mae am i'r taliadau gan y gwahanol awdurdodau amrywio yn l maint y cynghorau.

Hefyd mae am weld yr Eisteddfod yn arbed arian.

"Gwastraff arian llwyr yw talu i bobl i godi'r pebyll yma, eu tynnu i lawr a'u cludo o le i le yn flynyddol," meddai.

"Byddai'n well gwario'r arian ar yr Eisteddfod ei hun a'r unig ffordd i wneud hynny yw ei sefydlu mewn man canolog.

"Mae Aberystwyth yn lle canolog a delfrydol ar gyfer yr Eisteddfod gan fod yr adnoddau angenrheidiol yno ac mae mewn bro Gymreig.

"Dwi'n meddwl fod angen iddyn nhw ystyried hyn o ddifri."

'Angen moderneiddio'

Mae Cyngor Conwy hefyd yn gefnogol mewn egwyddor ac yn credu fod rhaid i'r Eisteddfod wneud ei rhan.

"Dwi'n meddwl ei bod yn amser i'r Eisteddfod feddwl am foderneiddio," meddai'r arweinydd, y cynghorydd Emlyn Davies.

"Byddai'n well pe baen nhw'n sefydlogi gan arbed llawer o arian," meddai.

Doedd yr Eisteddfod ddim am ymateb cyn disgwyl ymateb ffurfiol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mhen y mis.

Bydd cyfle i ail wrando ar Manylu ar BBC Radio Cymru am 1800 nos Sul.




HEFYD:
'Rhy gynnar i sn am ohirio'
11 Ebr 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^