BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 25 Mai, 2005, 21:02 GMT 22:02 UK
Jenkins yn cipio gwobr yn y Brits
Katherine Jenkins
Roedd Katherine Jenkins wedi ei henwebu ddwywaith yng nghategori'r albwm gorau

Mae'r mezzo soprano Katherine Jenkins wedi ennill gwobr Albwm y Flwyddyn yn y Brits Clasurol yn Llundain nos Fercher.

Roedd y gantores Katherine Jenkins, 24 oed o Gastell-nedd, yn cystadlu yn erbyn Bryn Terfel ac Aled Jones yn y categori hwn ac enillodd gyda'i halbwm Second Nature.

Ond roedd llwyddiant hefyd i Bryn Terfel, y bariton o Bant Glas yn Nyffryn Nantlle, gan iddo ennill gwobr Artist Gwrywaidd y Flwyddyn.

Roedd chweched seremoni gwobrau'r Brits Clasurol yn cael ei chynnal yn Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain.

Roedd Jenkins, a fu'n perfformio yn ystod y noson, wedi ei henwebu ddwywaith ar gyfer y gwobrau yn yr un categori gyda dau albwm.

Ymysg enillwyr eraill y noson roedd yr arweinyddes Marin Alsop, a gafodd wobr Artist Benywaidd y Flwyddyn, a Natalie Clein, a enillodd wobr Perfformiwr Clasurol Ifanc Prydain.

Enillodd y ffliwtydd James Galway wobr am Gyfraniad Arbennig i Gerddoriaeth.

Cytundeb recordio

Daeth Jenkins i frig y siartiau clasurol yn Ebrill 2004 gyda'i halbwm Premiere.

Fis Hydref fe aeth ei hail albwm i rif un a hi oedd yr artist clasurol cyntaf ym Mhrydain i lwyddo i gyrraedd rhif un gyda dau albwm yn ystod yr un flwyddyn.

Cafodd gwobrau'r Brits Clasurol eu sefydlu yn 2000 er mwyn cydnabod cyfraniad y cerddorion clasurol a'r cynnydd yng ngwerthiant cerddoriaeth o'r fath drwy Brydain.

Bydd y seremoni yn cael ei ddarlledu ar ITV1 ac ITV3 nos Sul Mai 29.




HEFYD:
Enwebu cantorion Cymru
20 Ebr 05 |  Newyddion
Noson Bryn yn y Brits
27 Mai 04 |  Newyddion
Record blatinwm i Bryn Terfel
21 Tach 03 |  Newyddion
Cytundeb 1m i seren glasurol
17 Maw 04 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^