BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 24 Mai, 2005, 16:16 GMT 17:16 UK
Monopoly dwyieithog i Abertawe
Gm bwrdd Monopoly
Fe fydd y Gymraeg a'r Saesneg ar y bwrdd

Bydd fersiwn Abertawe o'r gm bwrdd Monopoly yn ddwyieithog wedi arolwg o bobl y ddinas.

Dywedodd gwneuthurwyr y gm y byddai'r enwau Cymraeg ar y bwrdd yn ogystal a'r rhai Saesneg pan fydd y gm yn mynd ar werth yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Ond dydyn nhw ddim yn datgelu ar hyn o bryd pa safloedd yn y ddinas fydd ar y bwrdd.

Un lleoliad fydd yn cael ei gynnwys yw'r stadiwm rygbi a phl-droed yn ardal y Morfa ond mae'n anhebygol y bydd cartref Catherine Zeta Jones yn cael ei gynnwys.

Hwn yw'r datblygiad diweddara yng nghyfres Monopoly - cafodd fersiwn Cymru ei ryddhau chwe blynedd yn l.

Yn hwnnw roedd y llyfryn rheolau yn y Gymraeg a'r Saesneg ond doedd yr enwau llefydd ddim yn ddwyieithog.

Cefnogaeth

Dywedodd Graham Barnes,llefarydd ar ran y gwneuthurwyr Winning Moves, y byddai'r Saesneg yn debyg o gael lle mwy amlwg ar y bwrdd ond bod yr arolwg o bobl y ddinas wedi dangos eu bod o blaid fersiwn dwyieithog.

"Roedd llawer o deimladau cryf ar y ddwy ochr," meddai.

Un o safloedd ar y bwrdd
Fe fydd angen lle i'r Gymraeg ar y bwrdd hefyd

Wrth gynnwys enwau Saesneg a Chymraeg, meddai, roedd gobaith y byddai rhieni yn defnyddio'r gm fel adnodd addysgol i ddysgu Cymraeg i'w plant.

Gofynnwyd i siopwyr canol y ddinas pa fannau enwog ddylai fod ar y bwrdd.

"Cafodd bron pob cornel o'r ddinas eu henwebu," meddai Mr Barnes.

"Fe fydd y stadiwm newydd yno ond wyddon ni ddim a fydd yn lle Mayfair."

Mae Monopoly wedi gwerthu dros 200m o'r gemau mewn 32 gwahanol iaith ers i'r gm gael ei dyfeisio yn 1935.

Bydd fersiwn Abertawe o'r gm ar werth yn yr hydref.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^