BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 24 Mai, 2005, 11:38 GMT 12:38 UK
105,000: Dysgu ym Mhatagonia
Ysgol Feithrin Y Gaiman, Patagonia
Mae'r ysgol feithrin ym mhentref Y Gaiman yn boblogaidd iawn

Bydd athrawon o Gymru yn teithio i Batagonia i hybu'r iaith oherwydd cymhorthdal y cynulliad.

Mae Gweinidog Diwylliant y cynulliad Alun Pugh wedi dweud y bydd 105,000 ar gael dros y tair blynedd nesaf i hyfforddi tiwtoriaid Cymraeg yn y Wladfa.

Bydd yr arian yn talu am gostau anfon athrawon o Gymru i Batagonia mewn prosiect sy'n anelu at gryfhau'r iaith Gymraeg yno.

Mae'r cyhoeddiad yn sgl lansio llyfr sy'n cofnodi datblygiad y gymuned Gymraeg ym Mhatagonia 140 o flynyddoedd ar l i'r Cymry lanio yn yr Ariannin.

Dal dychymyg

"Pan aethon ni i Batagonia y llynedd gwelais i ba mor lwyddiannus fu'r prosiect wrth godi proffil yr iaith Gymraeg yn yr ardal," meddai Mr Pugh.

"Mae llawer wedi sn am gryfder yr iaith a'r cysylltiadau rhwng ein dwy wlad. O hyd mae'r Gymraeg yn dal i fod yn rhan o fywyd beunyddiol Patagonia heddiw.

"Ac mae profiadau'r ymsefydlwyr cyntaf a'u disgynyddion yn dal ein dychymyg o hyd.

Ymfudwyr i'r Wladfa
Ymfudwyr i'r Wladfa ar fwrdd llong SS Oricha yn 1911

"Rwy'n falch fod Llywodraeth y Cynulliad yn chwarae ei rhan yn cadw agwedd mor bwysig ar ein treftadaeth ddiwylliannol yn fyw."

Lansiwyd y cynllun hybu iaith dair blynedd yn l.

Mae ysgol feithrin yn y Gaiman ac mae dosbarthiadau Cymraeg yn boblogaidd yn yr ardal.

Aeth y Cymry i dalaith y Chubut ym Mhatagonia yn 1865.

Bydd y gweithgareddau, meddai Llywodraeth y Cynulliad, o fudd i gymunedau dyffryn y Chubut, gan gynnwys Gaiman a Threlew, a chymunedau yn yr Andes megis Esquel a Threfelin.




HEFYD:
Hwb i'r iaith ym Mhatagonia
13 Awst 04 |  Newyddion
Pam bod y Wladfa'n denu Cymry
10 Tach 04 |  Newyddion
Dychwelyd adref i Batagonia
09 Tach 04 |  Newyddion
Cofnod Kyffin o'r Wladfa
09 Hyd 04 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^