Roedd dros 400 yn rhedeg yn y ras flynyddol
|
Tri o sêr rygbi Cymru oedd y rhedwyr cudd yn ras flynyddol Nos Galan o amgylch Aberpennar yng Nghwm Cynon.
Cariodd Gethin Jenkins, Martyn Williams a Rhys Thomas ffagl o fedd y rhedwr chwedlonol Guto Nyth Brân yn Llanwynno i ganol tref Aberpennar.
Mae'r rhedwr neu redwyr cudd yn cael ei gadw'n gyfrniach tan y funud olaf.
Mae'r rasys wedi cael eu cynnal yng Nghwm Cynon ers 1958 ac mae 'na ras ar gyfer y plant ac ar gyfer oedolion.
Cymerodd dros 400 o bobl ran yn y ras eleni gyda channoedd mwy yn mwynhau'r wledd wrth wylio'r ras a mwynhau'r adloniaint oedd ar eu cyfer.
Gosododd y tri chwaraewr rygbi, sy'n rhan o garfan Gleision Caerdydd, dorch o flodau ar fedd Guto Nyth Brân yn Llanwonno cyn rhedeg ar draws y mynydd i Aberpennar gyda'r ffagl.
Rhys Thomas, Gethin Jenkins a Martin Williams oedd y rhedwyr cudd eleni
|
Cafodd y ffagl ei danio er cof am y rhedwr chwedlonol ac fel arwydd o gychwyn ras yr oedolion.
Matthew Gurmin o dîm rhedeg Abertyleri enillodd ras y dynion a'r ddynes gyntaf i groesi'r llinell orffen oedd Julie Clarke o Gaerdydd.
"Fe fu hi'n noson dda a llwyddiannus," meddai maer Rhondda Cynon Taf y Cynghorydd Emlyn Jenkins.
"Mae'r digwyddiad yma yn un poblogaidd iawn ac mae'n ffordd dda o ffarwelio a'r flwyddyn.
"Mae'n rhaid diolch i bawb am wneud y noson yn gymaint o lwyddiant."