Dywed y cyngor bod y galw am addysg Gymraeg yn cynyddu
|
Mae cynllun i godi ysgol gynradd Gymraeg yn Abertawe a'r Cylch wedi ei ddatgelu wrth i ysgolion y ddinas gael eu had-drefnu.
Golyga'r ad-drefnu y bydd Ysgol Garnswllt ac Ysgol Llwynderw yn cau ac adeilad newydd yn agor yng ngorllewin Abertawe.
Dywed y cyngor fod yr ad-drefnu o ganlyniad i'r galw cynyddol am addysg Gymraeg er bod nifer y disgyblion yn gyffredinol yn gostwng.
Mae rhieni sydd yn ymgyrchu dros addysg Gymraeg wedi croesawu'r cynllun, ond yn dweud y bydd rhaid agor mwy o ysgolion i ateb y galw.
Cabanau
Credir mai dim ond pump o ddisgyblion fydd ar gofrestr Ysgol Gynradd Garnswllt ym Medi, ac mae gwahoddiad i rieni ddewis unrhyw ysgol Gymraeg arall i'w plant.
Byddai'r ysgol newydd yng ngorllewin y ddinas yn cymryd disgyblion Llwynderw, sydd ar hyn o bryd mewn cabanau dros dro ar faes Ysgol yr Esgob Gore.
Croesawodd Heini Gruffudd, aelod o ymgyrch Rhieni Dros Addysg Gymraeg, y cynllun er ei fod, meddai, chwe blynedd yn hwyrach na'r disgwyl.
"Rydym yn croesawu'r ysgol yn enfawr ond mi fydd yn rhaid i ni edrych yn awr at agor dwy ysgol arall yn y ddinas.
"Mae'r cynnydd yn y galw am addysg Gymraeg yn Abertawe yn rhyfeddol," meddai.
"Rydym yn disgwyl i'r cynnydd o 50 o blant y flwyddyn, sydd wedi bod yn gyson ers peth amser, i barhau," meddai.
Siom
Bydd y cynlluniau'n golygu fod Ysgol Gymunedol Dylan Thomas yn cau ac mae rhieni'n trefnu ymgyrch i'w chadw'n agored.
Y bwriad yw symud disgyblion Ysgol Dylan Thomas i Ysgol yr Esgob Gore yn 2007.
Bydd Ysgol Gynradd Mayals yn aros yn agored pan mae Meithrin Bryn ac Ysgol Garnswllt yn cau.
Mi fydd Ysgol Mayals, oedd dan fygythiad, yn aros yn agored
|
Dywedodd Cyngor Abertawe y byddai'r cynllun yn gwella addysg yn y ddinas.
"Mae'r cyngor wedi ymgynghori'n eang i ddarganfod beth yw barn pobl a sut i ymateb i'r her sy'n wynebu ein hysgolion," meddai Mike Day, aelod o gabinet addysg y cyngor.
Roedd gan Ysgol Dylan Thomas lai na'r lleiafswm angenrheidiol o 600 o ddisgyblion rhwng 11 a 16 ar ei chofrestr.
Dangosodd amcangyfrifon y byddai llai na 400 yn yr ysgol erbyn 2010.
Dywedodd Robin Lowe, un o rieni-lywodraethwyr Ysgol Dylan Thomas, nad oedd staff na rhieni wedi clywed am y cynlluniau cyn dydd Mercher.
"Mae wedi bod yn ergyd drom," meddai.
"Nid ydym yn deall hyn oherwydd rydym wedi ateb gofynion y cyngor.
"Roedd adroddiad Estyn yn dda iawn. Mae gennym gyfleusterau modern a hardd ac mae'n siom fawr."
Dywedodd y byddai rhieni yn sefydlu grŵp gweithredu i ymgyrchu i gadw'r ysgol yn agored.
Mae awdurdodau lleol eraill, gan gynnwys Caerdydd a Chaerfyrddin, yn gweithio ar gynlluniau i ad-drefnu eu hysgolion.