BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 18 Mai, 2005, 16:40 GMT 17:40 UK
Gwynfor: Ategu galwad i enwi adeilad
Gwynfor Evans
Byddai enwi'r adeilad yn ffordd o gydnabod gwaith Gwynfor Evans, medd myfyrwyr

Yn dilyn ymgais myfyrwyr Aberystwyth i enwi adeilad yn y brifysgol ar ôl cyn-arweinydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans, mae ASau y Blaid hefyd wedi gwneud yr un alwad.

Bu farw Dr Evans yn 92 oed ym mis Ebrill.

Ddydd Mercher yn y Senedd fe wnaeth arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd, ategu'r alwad wrth dalu teyrnged yno i AS cyntaf y blaid.

Mae Mr Llwyd hefyd wedi cyflwyno cynnig seneddol i gydnabod cyfraniad enfawr Gwynfor i wleidyddiaeth Cymru a thu hwnt.

Yn y cynig mae'n galw ar y Brifysgol i enwi adeilad newydd adran wleidyddiaeth y coleg ar ôl Dr Evans.

"Roedd Gwynfor Evans yn o wleidyddion mwya Cymru yn yr 20fed ganrif," meddai Mr Llwyd.

"Pan fu farw fe wnaeth teyrngedau lifo i mewn ar draws y sbectrwm gwleidyddol gan gydnabod ei gyfraniad anfesuradwy i fywyd gwleidyddol Cymru.

"Fe fydd Gwynfor yn cael ei gofio am lawer peth, nid y lleiaf am ei ymroddiad ddiflino i achos heddwch a dealltwriaeth rhyngwladol.

"Fe fydd yn goffâd teilwng petai'r Brifysgol yn cydnabod ei lwyddiannau a'i gyfraniad arhosol drwy enwi'r adeilad newydd ar ei ôl."

Croeso

Mae disgwyl i adeilad adran wleidyddiaeth rhyngwladol y brifysgol agor ei ddrysau ddiwedd y flwyddyn.

Dywedodd llefarydd y brifysgol eu bod yn croesawu awgrym y myfyrwyr pan gafodd ei wneud yr wythnos diwethaf.

"Dydi'r broses o ddewis enw ar gyfer yr adeilad newydd ddim wedi dechrau eto."

Y cyn brifathro Derec Llwyd Morgan (chwith) yn torri'r dywarchen cyntaf.
Mae disgwyl i'r adeilad newydd fod yn barod i staff erbyn diwedd y flwyddyn

Wrth glywed awgrym y myfyrwyr dywedodd ŵyr Dr Evans, Mabon ap Gwynfor, ei fod yn croesawu penderfyniad pwyllgor gwaith Urdd Myfyrwyr Aberystwyth.

Mae'r adran wleidyddiaeth rhyngwladol, a sefydlwyd yn 1919, mewn nifer o adeiladau ar gampws Penglais.

Cychwynnodd y gwaith o godi adeilad newydd am gost o £5m ym mis Medi.

Mae 750 o fyfyrwyr a 50 o staff yn yr adran a enillodd y radd uchaf o 5* yn yr asesiad ymchwil diweddaraf.

"Roedd yn ddyn o egwyddor a gweledigaeth a gyfrannodd yn anferth at ddatblygiad ein cenedl a chaniatáu i Gymru chwarae ei rhan yn llawn yng nghymuned y cenhedloedd," meddai Mr ap Gwynfor.

"Byddai anrhydeddu gwaith ei fywyd drwy enwi'r adeilad ar ôl Gwynfor yn gydnabyddiaeth o waith oes tuag at y nod hwnnw."




HEFYD:
'Enwch yr adeilad ar ôl Gwynfor'
13 Mai 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^