Poeni am addysg: Y mudiadau wedi uno
|
Mae chwe mudiad wedi uno â'i gilydd i ymgyrchu yn erbyn cau ysgolion gwledig.
Y chwech sy'n cynrychioli 65,000 o aelodau yw Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, Merched y Wawr, Undeb Ffermwyr Cymru, Sefydliad y Merched a Chronfa Ysgolion Bychain Cymru.
Enw'r gymdeithas newydd yw Cymdeithas Ysgolion Bychain Cymru.
Y prif nod yw ymgyrchu yn erbyn "bygythiad cynyddol" cau ysgolion gwledig.
Mae'r gymdeithas wedi dweud fod cau ysgolion gwledig yn tanseilio'r cymunedau ac yn "effeithio ar iaith ac ysbryd cymunedol".
"Mae gwir angen am fudiad fel hwn, un a fyddai wedi helpu Ysgol Hermon i frwydro drwy'r Uchel Lys," meddai Cris Tomos, cadeirydd Ymgyrch Ysgol Hermon a threfnydd Cronfa Ysgolion Bychain Cymreig.
Aeth rheini'r ysgol honno i'r Uchel Lys y llynedd i geisio newid penderfyniad Cyngor Sir Penfro i gau'r ysgol ond methon nhw.
Effaith ar 200 o ysgolion
Mae'r rhieni wedi dweud eu bod yn barod i helpu ysgolion eraill o dan yr un bygythiad.
"Mae'r mudiadau amrywiol wedi dod at ei gilydd oherwydd eu bod yn credu fod hon yn ymgyrch hanfodol y mae'n rhaid ei hennill," meddai Mr Tomos.
Honnodd y gallai'r polisi presennol effeithio ar fwy na 200 o ysgolion bychain gan fod unrhyw ysgol â llai na 90 o ddisgyblion o dan fygythiad, meddai.
Fe fu disgyblion a rhieni Hermon yn yr Uchel Lys
|
Dywedodd y gymdeithas ei bod am hysbysu'r cyhoedd am ba mor bwysig oedd ysgolion gwledig Cymreig yn eu cymunedau.
Mae'n bwriadu llunio deiseb ac yn anelu at 500,000 o enwau erbyn Hydref 2005.
Cafodd cronfa ar wahân ei sefydlu i godi arian i roi help a chyngor i rieni a chyrff llywodraethol ysgolion dan fygythiad.
"Gyda'r nifer o bobl yn barod i ddatgan eu gwrthwynebiad i gau ysgolion bach ar draws Cymru gobeithiwn yn wir y bydd gwleidyddion sy'n gwthio'r polisïau annheg o gau ysgolion bach yn sylweddoli bod angen adolygu'r polisïau ar frys," meddai Mr Tomos.
Dywedodd Cadeirydd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW) Morlais Owen fod y gymdeithas yn teimlo'n gryf fod yr ysgol leol yn "cynnig addysg o ansawdd uchel" ac yn "cryfhau'r gymuned yn lleol".
"Mewn rhai ardaloedd gwledig yr ysgol leol yw'r unig fan cyfarfod. Byddai colli'r cyfleuster hwn yn effeithio'n niweidiol ar yr iaith, y diwylliant a'r amgylchedd yng nghefn gwlad."