Mae'r pedwar llu wedi bod yn trafod y camau nesaf
|
Mae'r pedwar llu heddlu yng Nghymru wedi gwrthod dweud wrth yr Ysgrifennydd Cartref pa opsiwn ydi'r gorau ganddyn nhw ar gyfer ad-drefnu'r lluoedd a dyfodol plismona yng Nghymru.
Mae gan y lluoedd tan ddydd Gwener i gyflwyno'u cynlluniau ar gyfer yr uno posib.
Maen nhw wedi cyflwyno cais busnes manwl ar gyfer yr opsiynau gwahanol ond heb fanylu ar yr un gorau.
Mae'r Swyddfa Gartref am weld ad-drefnu'r 43 llu presennol yng Nghymru a Lloegr a'u cwtogi i gyn lleied â 12.
Dim ond 13 o'r 43 llu sydd wedi dangos diddordeb mewn uno, yn ôl ffigyrau gan Gymdeithas Awdurdodau'r Heddlu, sydd hefyd yn honni nad yw'r un llu wedi cyflwyno cais llawn a'r cais busnes olaf, er bod rhai wedi cyflwyno cynllun ar gyfer costau.
Yr opsiynau yng Nghymru yw:
- Cadw'r trefniant presennol
- Cadw at bedwar llu ond bod gan Heddlu'r Gogledd fwy o gysylltiad gyda Heddlu Sir Gaer
- Creu dau lu drwy uno Heddlu'r Gogledd efo Heddlu Dyfed Powys a Heddlu Gwent efo Heddlu'r De
- Creu un llu drwy uno'r pedwar.
Mae Charles Clarke yr Ysgrifennydd Cartref wedi dweud ei fod yn dymuno gweld un llu ar gyfer Cymru.
Mae'n credu bod lluoedd mwy yn well ar gyfer delio gyda'r gymdeithas droseddol a therfysgaeth.
Er bod tri o'r pedwar prif gwnstabl yng Nghymru wedi dweud wrth Bwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig eu bod yn cefnogi'r bwriad o uno mewn egwyddor, maen nhw am i'r costau o ailstrwythuro gael eu talu gan y llywodraeth.
Arian
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, Terence Grange, bod y cynlluniau "yn ymylu ar draed moch" a chyhuddodd y Swyddfa Gartref o ddiffyg "cyllid, proffesiynoldeb a chefnogaeth wleidyddol".
Yn yr hyn sydd wedi cael ei gyflwyno mae'r awdurodau wedi mynegi pryderon ynghylch y brys i weithredu newid a'r diffyg ymgynghori.
Terence Grange: Cynlluniau "yn ymylu ar draed moch"
|
Yr effaith ar blismona lleol, goblygiadau ariannol a diffyg gwybodaeth ynghylch llywodraethu yn y dyfodol yw'r rhesymau sydd wedi eu rhoi am beidio â dod i un penderfyniad.
Yn gynharach yn yr wythnos cafodd cadeiryddion yr awdurdodau heddlu a'r prif gwnstabliaid gyfarfod gyda Hazel Blears, gweinidog yn y Swyddfa Gartref.
Fe wnaethon nhw danlinellu sefyllfa unigryw Cymru fel gwlad yn hytrach na rhanbarth, a'r problemau daearyddol, strwythur a materion diwylliannol fydd angen eu hystyried.
Paul Wood, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu'r De, sy'n arwain y tîm sy'n edrych ar y cynigion ar ran lluoedd Cymru.
"Mae'n bwriad yn parhau, i sicrhau bod gan Gymru strwythur plismona sy'n cynnig plismona cymunedol a gwasanaeth gofal pwrpasol," meddai.
"Yn y cyfamser allwn ni ddim fforddio i golli'n golwg ar y ffaith bod ganddon ni waith dyddiol i'w wneud ac mae angen sicrhau ein bod yn gwneud y gwaith gorau posib i bob cymuned ar draws Cymru."