BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 21 Rhagfyr 2005, 17:13 GMT
Hoyw: Cynnal seremon´au cyntaf
David Davies (chwith) a Paul Baccara
Roedd Paul Baccara yn dymuno "seremoni urddasol a chywir"

Mae pobl hoyw a gofrestrodd eu perthynas yn seremon´au partneriaeth sifil cyntaf Cymru a Lloegr yn annog gwrthwynebwyr i dderbyn y newid.

Bu bron i 700 o seremon´au yng Nghymru a Lloegr ddydd Mercher.

Roedd y seremon´au cyntaf yng Ngogledd Iwerddon ddydd Llun ac yn Yr Alban ddydd Mercher lle mae un cyngor yno yn gwahardd seremon´au partneriaethau hoywon.

Cafodd Deddf Partneriaethau Sifil ei phasio yn San Steffan y llynedd sy'n golygu fod gan barau hoyw yr un hawliau Ô rhai heterorywiol ym meysydd cyflogaeth, pensiynau, ac etifeddu. Daeth i rym ar Ragfyr 5.

Mae rhai mudiadau eglwysig ac Archesgob Pabyddol Caerdydd y Gwir Barchedig Peter Smith wedi beirniadu'r newid am ei fod yn "tanseilio'r briodas draddodiadol."

Un o'r cyplau hoyw a gofrestrodd eu perthynas mewn seremoni ddydd Mercher yw Paul Baccara a David Davies o Donysguboriau ger Llantrisant.

Bu'r ddau, sydd wedi bod gyda'i gilydd am 27 mlynedd, yn dathlu yng Ngwesty Maenor Meisgyn ger Caerdydd gyda theulu a ffrindiau.

'Urddasol'

Dywedodd Mr Baccara, 47 oed ac yn gynghorydd yn Rhondda Cynon Taf, ei fod am gael "seremoni urddasol a chywir".

Yn agored hoyw ers bod yn 16 oed, mae'n anfodlon ar y term "priodas hoyw".

"Mae'r gair 'priodas' yn air crefyddol sy'n arwain at fagu plant ond, wrth gwrs, mae nifer o gyplau heterorywiol ddim am gael plant.

"Ac mae hwn yn ddathliad fel pob dathliad arall lle mae dau berson yn datgan eu cariad.

"Ond mae'n ddiwrnod pwysig i bobl hoyw drwy Brydain. Dyw pobl ddim yn deall pa mor anodd mae profiadau pobl hoyw wedi bod cyn y diwrnod hwn."

Cyfaddefodd ei fod e a Mr Davies, 52 oed, yn nerfus wrth baratoi ar gyfer y diwrnod mawr. Roedd 55 o westeion, yn cynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr y ddau yn rhan o'r dathlu.

Mae un cyn-weiniodg, Martin Reynolds, yn paratoi i gynnal ei seremoni ei hun y flwyddyn nesaf.

Dywedodd bod rhaid i'r offeiriadaeth dderbyn fod perthynas hoyw yn "sanctaidd ac yn wych o flaen llygaid y gyfraith".

"Mae'r Beibl yn llawn o bobl o'r un rhyw sy'n caru ei gilydd," meddai.

"Fel unrhyw berson arall rydym am fynd i'r capel a chael ein derbyn a dwi'n gobeithio y bydd y seremoni yn gam ymlaen."

Pryder am y dyfodol

Dywedodd Griff Jones, aelod o fwrdd Stonewall Cymru sy'n ymgyrchu dros hawliau pobl hoyw, ei fod yn croesawu'r rheolau newydd.

"Mae'n hollbwysig achos eu bod yn golygu cyfartaledd.

"Yn amlwg, mae rhoi sicrwydd o fewn deddf gwlad yn bwysig i bobl. Mae'n gyfle i ddatgan yn gyhoeddus ymrwymiad i gymar o'r un rhyw mewn ffordd sydd erioed wedi bod yn bosib o'r blaen.

Ond dywedodd y Parchedig Elfed Gooding, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynghrair Efengylaidd Cymru, mai ei brif bryder oedd yr elfen o 'briodas'.

"Dwi'n dymuno'n dda i bawb ... ond fy mhryder fel Cristion ydi bod y bartneriaeth sifil yn gyfwerth Ô phriodas, sydd yn ˘l y Beibl a bwriad Duw i fod rhwng pobl o wahanol ryw ..."




HEFYD:
Ynyswyr yn erbyn seremoni hoyw
21 Rhag 05 |  Newyddion



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^