Dywedodd y Swyddfa Gartef y bydd yr uno yn gwella'r gwasanaeth
|
Mae Aelodau Seneddol Cymreig yn San Steffan wedi beirniadu cynlluniau'r Ysgrifennydd Cartref i uno heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.
Mae Charles Clarke credu y byddai lluoedd mwy yn gallu delio yn fwy effeithiol a throseddau fel terfysgaeth a smyglo cyffuriau.
Mae'r Swyddfa Gartref yn disgwyl i bedwar Awdurdod Heddlu Cymru ymateb i'r cynlluniau erbyn diwedd yr wythnos. Ond mae hynny'n annhebygol.
Yn ystod y ddadl yn Nhŷ'r Cyffredin nos Lun cafodd Mr Clarke ei herio ynglŷn a'r cynlluniau a derbyn gwrthwynebiad gan bob plaid.
Fydd yr un o heddluoedd Cymru yn cwrdd ac amserlen y llywodraeth wrth ymateb i'r cynlluniau dadleuol.
Mae pob un o'r pedwar llu yng Nghymru yn dweud na fyddan nhw yn dweud wrth Mr Clarke pa ddewis sydd orau ganddyn nhw nes y bydd o'n rhoi manylion cost y newidiadau a'r amserlen.
Mae Mr Clarke wedi gofyn am eu hymateb erbyn dydd Gwener.
Llwgrwobrwyo
Bwriad Mr Clarke ydi i leihau'r 43 llu presennol, o bosib i cynllied â 12 drwy Gymru a Lloegr ac mae am weld Cymru yn cael un llu yn hytrach na'r pedwar presennol.
Mae Mr Clarke wedi cynnig arian i awdurdodau heddlu sy'n gwirfoddoli uno ond mae ASau yn erbyn y cynllun wedi dweud y dylid atal y cynllun.
Mae Mr Clarke am weld mwy o gydweithio i daclo troseddau
|
Mae Cymdeithas Awdurdodau Heddlu wedi cyhuddo gweinidogion o geisio "llwgrwobrwyo" heddluoedd.
Cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi ar ôl adroddiad Arolygiaeth yr Heddlu a honnodd nad oedd lluoedd â llai na 4,000 o blismyn yn ddigon soffistigedig i ddelio â throseddau modern.
Mae'r rhai o blaid y newid wedi dweud y bydd heddluoedd mwy yn cydweithio'n well ac y gallai'r newidiadau at arbed hyd ar £2.3bn dros 10 mlynedd.
Roedd nifer o ASau o bob plaid yn ofni ac yn cwyno am y broses gan y Swyddfa Gartref sy'n symud ar ormod o frys ac nad ydi'r llywodraeth wedi gwrando ddigon ar y cyhoedd a'r heddluoedd.
Roedden nhw hefyd yn ofni am y cynllun a all beryglu gwaith pwysig mae'r heddlu yn ei wneud yn lleol a'u gwneud yn llai atebol.
Roedd sawl AS o'r gogledd yn pryderu am ganlyniadau'r uno gyda'r posib yn y pendraw o symud adnoddau i'r de, rhywbeth y mae'r llywodraeth gwadu, costau'r ad-drefnu a Phlaid Cymru yn cwyno y dylai'r cynulliad fod wedi cael mwy o lais.
Llais dros Gymru
"Dydyn nhw (y llywodraeth) ddim yn gwrando dim a wna nhw ddim gwrando chwaith," meddai Elfyn Llwyd, AS Meirionnydd Nant Conwy.
"Mae'n resyn na all Peter Hain sefyll i fyny a bod yn lais cryf dros Gymru yn y cabinet yn hytrach na bod yn lais y cabinet yng Nghymru fel bob amser."
Un o aelodau Llafur oedd yn feirniadol o'r cynllun ydi aelod Dwyrain Casnewydd Paul Flynn.
"Mae gwasanaeth yr heddlu yn gweithio ac mae'n boblogaidd a mwyafrif yn meddwl eu bod yn dda iawn, yn enwedig yng Nghymru mae ganddon ni rai o'r lluoedd mwya llwyddiannus.
"Mae'r amserlen yn amhosib. Clywais am y syniad ym mis Medi ac mae'n rhaid cael o leia blwyddyn i drafod y cynlluniau.
"Dwi'n falch clywed o feinciau cefn Llafur a'r pleidiau eraill wrthwynebiad yn erbyn cyflymder y syniad.
"Ond mae'n bosib y gall y cynllun gael ei wrthod os bydd pleidlais yn y senedd."
Bwriad y llywodraeth ydi i gyhoeddi cynlluniau terfynol erbyn y gwanwyn ac mae'r Swyddfa Gartref yn gobeithio dechrau ar y gwaith o fewn dwy flynedd.