Byddai enwi'r adeilad yn ffordd o gydnabod gwaith Gwynfor Evans, medd myfyrwyr
|
Mae myfyrwyr am enwi adeilad prifysgol ar ôl cyn-arweinydd Plaid Cymru Gwynfor Evans fu farw yn Ebrill.
Dywedodd ŵyr Gwynfor, Mabon, ei fod yn croesawu penderfyniad pwyllgor gwaith Urdd Myfyrwyr Aberystwyth sy wedi pleidleisio'n unfrydol i dalu teyrnged i Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru.
Mae disgwyl i adeilad adran wleidyddiaeth rhyngwladol y brifysgol agor ei ddrysau ddiwedd y flwyddyn.
Dywedodd llefarydd y brifysgol eu bod yn croesawu awgrym y myfyrwyr.
Byddai enwi'r adeilad yn cydnabod gwaith Gwynfor Evans dros y genedl a'r brifysgol, meddai Bethan Jenkins, llywydd Urdd Myfyrwyr Aberystwyth.
"Roedd Gwynfor yn rhan hanfodol o wleidyddiaeth Cymru a bydd yn parhau i fod felly.
'Ysbrydoli'
"Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn enwi'r adeilad ar ôl ffigwr o'r fath statws yng Nghymru er mwyn ysbrydoli myfyrwyr sy'n astudio yn Aberystwyth i ddod yn rhan o wleidyddiaeth weithredol yng Nghymru," meddai.
Mae'r adran wleidyddiaeth rhyngwladol, a sefydlwyd yn 1919, mewn nifer o adeiladau ar gampws Penglais.
Mae disgwyl i'r adeilad newydd fod yn barod i staff erbyn diwedd y flwyddyn
|
Cychwynnodd y gwaith o godi adeilad newydd am gost o Ł5m ym Medi.
Mae 750 o fyfyrwyr a 50 o staff yn yr adran a enillodd y radd uchaf o 5* yn yr asesiad ymchwil diweddaraf.
Dywedodd llefarydd ar ran y Brifysgol: "Mae'r Brifysgol yn croesawu awgrym y myfyrwyr, ond nid yw'r broses o ddewis enw ar gyfer yr adeilad newydd wedi dechrau eto."
'Egwyddor'
Dywedodd Mabon ap Gwynfor ei fod yn croesawu penderfyniad y myfyrwyr.
"Roedd yn ddyn o egwyddor a gweledigaeth a gyfrannodd yn anferth at ddatblygiad ein cenedl a chaniatáu i Gymru chwarae ei rhan yn llawn yng nghymuned y cenhedloedd.
"Byddai anrhydeddu gwaith ei fywyd drwy enwi'r adeilad ar ôl Gwynfor yn gydnabyddiaeth o waith oes tuag at y nod hwnnw.
Bu farw Dr Evans ar Ebrill 21 yn 92 oed ac roedd mwy na 2,000 yn ei angladd yn Aberystwyth.