Mae'r Senedd yn ailymgynnull ddydd Mercher
|
Mae 10 Aelod Seneddol o Gymru yn San Steffan am y tro cyntaf ddydd Mercher wrth i'r Senedd ailymgynnull ar ôl yr etholiad cyffredinol.
Yn eu plith mae'r aelod Annibynnol Blaenau Gwent Peter Law, a lwyddodd i gipio sedd fwyaf diogel Llafur ym Mlaenau Gwent.
Hefyd fe fydd AS Llafur Gorllewin Abertawe, Alan Williams, yn dechrau ar ei waith fel Tad y Tŷ.
Fe etifeddodd Mr Williams, 74 oed, y teitl gan mai ef bellach yw'r AS sydd wedi gwasanaethu'n ddi-dor am y cyfnod hiraf.
"Mae'r aelodau newydd wedi bod yn cyrraedd (San Steffan) dros y diwrnodau diwethaf, " meddai Bethan Lewis o Uned Wleidyddol BBC Cymru.
"Maen nhw wedi bod yn cael cyfarfodydd gyda swyddogion y Senedd ynglŷn â'r rheolau a chyfarfodydd gyda swyddogion eu pleidiau a chael hyfforddiant am bethau fel sut i ddelio â'r cyfryngau.
"Oes mae 'na dipyn o nerfusrwydd ond mae 'na gyffro hefyd."
'Materion bara menyn'
Mae Siân James, Aelod Seneddol newydd Dwyrain Abertawe, yn edrych ymlaen am y sialens.
"Fel Aelod Seneddol y materion bara menyn fydd yn bwysig - beth sy'n digwydd i'r etholwyr," meddai.
"Yn barod dwi wedi derbyn galwad ffôn gan rywun yn Nwyrain Abertawe angen help a gwybodaeth. Felly fe fydda i'n canolbwyntio ar chwarae fy role cyfan fel gwleidydd."
Mae nifer o aelodau wedi dweud fod angen canolbwyntio ar y gwaith o ddeddfu yn hytrach nag arweinyddiaeth y prif weinidog, Tony Blair, dros y misoedd nesaf.
"Dwi'n meddwl fod rhaid i ni ganolbwyntio nawr ar y polisïau achos dyna beth mae pobol moyn," meddai Nia Griffith, yr aelod newydd dros Lanelli.
"Mae pobol wedi pleidleisio droston ni i gael y pethau sy'n y maniffesto a dwi'n meddwl nawr fod rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn gwneud rhywbeth a nid dim ond trafod yr arweinyddiaeth sydd ddim yn ddefnyddiol i neb."
Bydd aelod o Gymru'n cymryd rhan amlwg yn y seremoni brynhawn Mercher wrth i'r llefarydd gael ei ddewis.
Fe etifeddodd Mr Williams, 74 oed, y teitl gan mai ef bellach yw'r AS sydd wedi gwasanaethu'n ddi-dor am y cyfnod hiraf.
'Braint'
Tam Dalyell oedd yn dal y teitl cyn Mr Williams ond fe wnaeth ymddeol adeg yr etholiad.
Bydd Mr Williams, a gafodd ei ethol gyntaf yn 1964, yn llywyddu'r broses o ethol Llefarydd ddydd Mercher - swyddogaeth y mae Michael Martin yn debygol o'i chadw.
Alan Williams yw'r AS sydd wedi gwasanaethu'n ddi-dor am y cyfnod hiraf
|
Dywedodd Mr Williams, cyn weinidog diwydiant ac Ysgrifennydd yr wrthblaid ar Gymru a sydd ar hyn o bryd yn cadeirio'r Pwyllgor Cyswllt, fod cael teitl Tad y Tŷ "yn fraint".
Wrth sôn am y seremoni i ethol Llefarydd dywedodd "Am gyfnod byr dwi'n dal holl bwerau disgyblu Tŷ'r Cyffredin - am ryw bedwar munud."
"Mae wir fel gwasgu botwm i gychwyn y Senedd newydd."
Does dim llawer o ddyletswyddau ynghlwm wrth swyddogaeth Tad y Tŷ ond gallai olygu y bydd Mr Williams yn delio â chwestiynau gan ASau o'r holl bleidiau.
Dywedodd fod Mr Dalyell wedi dod ato cyn yr etholiad i ddweud ei fod yn ymddeol.
Ond dywedodd Mr Williams na wnaeth y posibilrwydd o ddod yn Dad y Tŷ ddylanwadu ar ei benderfyniad i sefyll yn yr etholiad.
Ond dywedodd na fyddai'n sefyll eto.
"Dwi wedi pwysleisio mai hwn fyddai fy mrwydr etholiadol olaf," meddai.
Wedi dros 40 mlynedd yn y Senedd dywedodd mai'r prif beth sy'n aros yn y cof yw'r "diwrnod cyntaf y ces fy ethol yng Ngorllewin Abertawe - roedd yn brofiad mor anhygoel."
Gwleidyddion o Gymru fu'n dal swydd Tad y Tŷ yw Syr James Callaghan a David Lloyd George.