Fe fyddai'r casino yn rhan o bentre chwaraeon Caerdydd
|
Mae Cyngor Sir Caerdydd wedi gwneud cais swyddogol i ddod â chasino rhanbarthol i'r brifddinas.
Byddai cymeradwyo'r cynlluniau yn annog buddsoddiad yn y datblygiad gwerth £700m sy'n cynnwys pentre chwaraeon, yn ôl y cyngor.
Ond rhybuddiodd yr awdurdod os ydi'r cais yn cael ei wrthod fe all y cynlluniau chwaraeon gael eu gohirio y tu hwnt i'r amserlen bresennol o 2012.
Mae 'na alw hefyd am newid rheol i ganiatáu un casino yn unig ym mhob rhanbarth.
Ar hyn o bryd mae'r Ddeddf Hapchwarae yn caniatáu i ranbarth gael un casino ond mae Caerdydd, ac awdurdodau eraill, yn galw am newid.
"Mae angen i'r cyngor brofi i'r llywodraeth y bydd casino rhanbarthol yn adfywio'r ardal yn economaidd ac yn fuddsoddiad sylweddol," meddai arweinydd y cyngor, Rodney Berman.
Adnodd o ansawdd
Dywedodd bod rhaid i'r cyngor ddangos fod modd lleihau a rheoli unrhyw effeithiau cymdeithasol niwediol.
"Rydym yn sylweddoli bod y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn adnodd o ansawdd byd-eang ar gyfer chwaraeon a hamdden ac yn gosod Caerdydd yn gadarn ar y brig fel dinas ryngwladol a fydd yn hwb i gais Prydain i gynnal y Gemau Olympaidd yn 2012."
Cwmni Aspers o Brydain ac Awstralia sydd wedi ei enwi fel y cwmni mwya delfrydol ar gyfer y casino ac fe fydd yn creu 1,500 o swyddi.
Mae 'na alw am newid yn y ddeddf i gael mwy nag un casino mewn rhanbarth
|
Cyn y cyhoeddiad mae Aspers wedi sefydlu grŵp gwirfoddol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r eglwys a mudiadau eraill fel yr heddlu a'r cyngor, a fydd yn casglu barn lleol.
"Mae Aspers yn falch o sefydlu'r grŵp yma yng Nghaerdydd," meddai Arthur Pitcher, rheolwr marchnata Aspers.
"Rydym wedi bod yn gweinyddu casinios am dros 40 mlynedd gan gynnwys rhai yn Ffrainc, Seland Newydd ac Awstralia ac rydym yn derbyn bod hapchwarae yn broblem ond fel gweinyddwyr cyfrifol rydym yn cynnig cyngor i bobl.
"Fe fydd y grŵp yma yn un ffordd o daclo'r problemau."
Dywedodd y bydd yn edrych ar ymchwil i hapchwarae o fewn y gymuned a chynorthwyo i ddatblygu gwybodaeth a deunydd addysgol.
Ychwanegodd bod modd i bobl fynd i'r casino heb orfod gamblo dim ond i gael noson dda a mwynhau.
Mae cynlluniau eraill ar gyfer y pentre chwaraeon yn cynnwys pwll nofio 50 metr a chyfarpar hamdden ac arena ar gyfer 4,000 o bobl.
Fel rhan o'r cynlluniau ac i fod yn gymorth ar gyfer y Gemau Olympaidd yn 2012 fe fydd 'na westai, bariau a bwytai yn rhan o'r cynllun.
Cychwynnodd y gwaith o adeiladu'r pentre chwaraeon yn yr hydref ar ôl i amlinelliad ar gyfer y cais gael ei dderbyn yn 2003.