BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 10 Mai, 2005, 11:17 GMT 12:17 UK
Glyndwr:'Y frwydr ar ben'
Owain Glyndwr
Mae nifer yn anfodlon ar y gofeb bresennol

Mae ardal chysylltiad ag Owain Glyndŵr wedi llwyddo i godi 100,000 ar gyfer cofeb.

Roedd cofeb yng nghanol Corwen wedi cael ei beirniadu.

Bydd y gofeb newydd yn cael ei chomisiynu diolch i gymorthdaliadau cyhoeddus a chyfraniadau hael unigolion.

Y nod, meddai'r trefnwyr, yw creu cofeb fydd yn "cynrychioli gweledigaeth yr arwr yn urddasol".

Mae Bwrdd Croeso Cymru wedi cyfrannu 20,000 at y cynllun sydd wedi ei drefnu gan Bartneriaeth Corwen a chafwyd cymorthdaliadau oddi wrth Awdurdod Datblygu Cymru a chronfa Amcan Un Ewrop drwy Gyngor Sir Ddinbych.

Roedd cyfrandaliadau unigolion yn bwysig, meddai Gerallt Tudur, aelod o Bartneriaeth Corwen.

'Corrach'

"Trwy ymdrechion lleol a chyfraniadau hael gan unigolion a grantiau 'dan ni wedi dod yn ddigon agos i ddweud ein bod wedi cyrraedd y nod," meddai Mr Tudur.

Mae pobl y dref wedi bod yn anfodlon ar y gofeb yng nghanol sgwr y dref.

Y gred oedd nad oedd yn deilwng a'i bod yn debycach i "gorrach y byddai rhywun yn ei roi mewn gardd".

"Mi gawn ni gerflun urddasol o Owain Glyndwr ar gefn ei geffyl gyda'i gleddyf yn ei law," meddai Mr Tudur.

"Byddwn yn gallu cynnwys elfennau eraill sydd yn cynrychioli ei weledigaeth a'i fwriadau fel gwladweinydd."

Dywedodd fod y bartneriaeth yn ddiolchgar i Gyngor Tref Corwen a aeth ati 12 mlynedd yn l i godi'r hen gofeb.

"Does dim llawer yn y wlad i gofio Owain ac roedd Corwen yn meddwl, gan ei fod wedi byw yn yr ardal, ei bod yn bwysig ei gofio," meddai Adrian Roberts o'r bartneriaeth pan lansiwyd yr apl.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^