John Dixon: 'Penderfyniadau sydyn ddim yn debyg o gael eu gwneud'
|
Mae cadeirydd Plaid Cymru wedi beirniadu rhai o ffigyrau blaenllaw y blaid am wneud sylwadau ar ddyfodol y blaid yn y cyfryngau yn hytrach na chyfrannu at drafodaethau mewnol y blaid.
Wedi canlyniadau siomedig yr etholiad cyffredinol fe fu arweinwyr Plaid Cymru yn ystyried y camau nesaf yn eu cyfarfod misol brynhawn dydd Llun.
Ond cyn y cyfarfod dywedodd John Dixon, cadeirydd y blaid, na ddylai unigolion ddefnyddio'r wasg fel cyfrwng i ddatrys trafferthion mewnol y blaid.
Yn y cyfamser mae Plaid Cymru wedi rhyddhau datganiad yn dweud fod arweinwyr y blaid wedi rhoi cefnogaeth lawn i'r llywydd, Dafydd Iwan yn y cyfarfod.
Roedd noson canlyniadau'r etholiad cyffredinol yn un siomedig i Blaid Cymru. Yn ogystal â cholli sedd yng Ngheredigion, methodd Plaid Cymru â chipio Ynys Môn.
Roedd arweinwyr Plaid Cymru yn cyfarfod ddydd Llun i drafod dyfodol y blaid.
Wrth siarad cyn y cyfarfod dywedodd Mr Dixon na ddylai unigolion ddefnyddio'r wasg fel cyfrwng i ddatrys trafferthion mewnol y blaid.
"Fe fyddai'n ddefnyddiol pe bai ffigyrau uwch y blaid yn cyfrannu eu meddyliau yn fewnol drwy fecanweithiau'r blaid¿.yn hytrach na drwy sylwadau anffurfiol oddi ar y record fel y mae rhai'n ymddangos yn awyddus iawn i'w wneud," meddai Mr Dixon.
'Cyfnod o adlewyrchu'
Dywedodd mai cyfarfod misol arferol oedd y cyfarfod ddydd Llun ac y byddai unrhyw benderfyniadau ar ddyfodol y blaid yn cael eu gwneud gan y pwyllgor gwaith cenedlaethol ddydd Sadwrn.
Yn y cyfarfod hwnnw, meddai Mr Dixon, y bydd y blaid yn dechrau edrych ar ganlyniad yr etholiad.
Ond dywedodd nad yw'n debygol y bydd penderfyniadau sydyn yn cael eu gwneud ddydd Sadwrn a bod angen "cyfnod o adlewyrchu" ar y blaid er mwyn iddi "gynllunio proses ar gyfer cymryd unrhyw benderfyniadau angenrheidiol."
Wrth siarad cyn y cyfarfod ddydd Llun dywedodd cyn-AS Ceredigion, Simon Thomas, y bydd rhaid i Blaid Cymru ailadeiladu gydag un arweinydd.
Ar hyn o bryd mae ganddi dri arweinydd: y llywydd, Dafydd Iwan, yr arweinydd Seneddol, Elfyn Llwyd, ac arweinydd y cynulliad, Ieuan Wyn Jones.
Dywedodd Mr Thomas, cyfarwyddwr polisi y blaid a gollodd i'r Democrat Rhyddfrydol Mark Williams, fod angen ailfeddwl.
"Mae angen arweinydd y mae pobl yn gallu credu ynddo fe neu hi, arweinydd sy'n crisialu ac yn ymgorffori gwerthoedd Plaid Cymru," meddai.
Beirniadodd ddelwedd hen-ffasiwn y blaid.
'Un wyneb'
"Rwy'n credu fod pobl yn yr oes fodern yn disgwyl cael un wyneb fel y gall cefnogwyr uniaethu â'r bersonoliaeth honno a theimlo ei bod yn ddiogel i fentro gyda'r blaid."
Dywedodd fod tri arweinydd yn rhan o fethiant y blaid i symud ymlaen ers etholiad y cynulliad ac y byddai'n colli tir yn yr etholiad nesaf os na fyddai'r drefn yn newid.
Mwy nag un arweinydd: 'Ffactor ym methiant y blaid'
|
"Mae'n bwysig bod y ffigwr newydd yn gallu cynrychioli beth fyddai delwedd newydd fodern i Blaid Cymru," meddai.
Doedd e ddim yn barod, meddai, i fentro enwi'r person gorau i arwain y blaid ond roedd yn bwysig fod yr arweinydd yn ymgeisydd i'r cynulliad.
"Bydd angen i'r blaid fod yn ben-galed ac yn aeddfed er mwyn sicrhau ei dyfodol."
Wedi'r cyfarfod ddydd Llun cyhoeddodd Plaid Cymru ddatganiad yn dweud fod arweinwyr y blaid wedi rhoi cefnogaeth lawn i'r llywydd, Dafydd Iwan.
Mewn datganiad wedi'r cyfarfod dywedodd Mr Iwan: "Mae'n rhaid i ni ddysgu o siomedigaethau Ceredigion ac Ynys Môn ac fe fyddwn ni'n edrych ar sawl agwedd o'n hymgyrch etholiadol i weld pa wersi y gellir eu dysgu.
"Mae'n rhaid i ni rannu'r bai am unrhyw ffaeleddau, a chymryd negeseuon cadarnhaol o'r llwyddiannau gwych yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Meirionnydd Nant Conwy a Chaernarfon.
"Dwi'n ddiolchgar am gefnogaeth fy nghydweithwyr. Mae materion i'w hystyried gan gynnwys pa ffordd yw'r gorau i gyflwyno ein neges fel plaid¿."